Mae’r ap yn galluogi i’n dinasyddion a’n hymwelwyr ofyn am wasanaethau, rhoi gwybod am ddigwyddiadau neu broblemau a gwneud ceisiadau o’u ffôn neu eu llechen.
Sut i lawrlwytho ApConwy
I roi cynnig ar ein ap, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho ApConwy o'r AppStore neu PlayStore.
Enghreifftiau o beth allwch chi ei wneud ar Ap Conwy:
- Gwirio dyddiau casgliadau gwastraff ac ailgylchu
- Gwneud cais am gynhwysydd neu fin
- Gwneud cais i drwsio neu newid bin olwynion
- Rhoi gwybod am broblem megis tipio anghyfreithlon neu dwll yn y ffordd
- Rhoi gwybod am olau stryd diffygiol
- Gwneud cais am docyn bws consesiynol, trwyddedau fan a chludiant ysgol/coleg
- Cofrestru ar gyfer e-Filio Treth y Cyngor a gwneud cais am ostyngiad ar Dreth y Cyngor
- Canfod, adnewyddu a chadw llyfrau llyfrgell
- Gwneud cais am leoedd ysgolion
- Gweld dyddiadau gwyliau ysgol a dyddiadau y mae ysgolion ar gau
- Cael mynediad at ParentPay - ffordd sydyn a syml o wneud taliadau i ysgol eich plentyn
Sut gallwch chi helpu
Rydym yn awyddus i glywed beth rydych yn ei feddwl o ApConwy, os hoffech anfon adborth atom, yna gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio 'Gwerthuso'r dudalen’ isod.