Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llwyddiant Siarter Iaith Ysgol y Creuddyn

Llwyddiant Siarter Iaith Ysgol y Creuddyn


Summary (optional)
start content

Llwyddiant Siarter Iaith Ysgol y Creuddyn

Siarter Iaith Ysgol Y Creuddyn 2025

Siarter Iaith - Ysgol Y Creuddyn

Ysgol y Creuddyn ydi’r ysgol uwchradd gyntaf yn y sir i ennill gwobr efydd y Siarter Iaith.

Mae’r Siarter Iaith, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod ar waith mewn ysgolion cynradd ers 2016 a chafodd ei chyflwyno i ysgolion uwchradd Cymraeg yn 2024.

Dyluniwyd y siarter i ategu’r cwricwlwm drwy hyrwyddo defnydd disgyblion o’r Gymraeg a chodi eu hymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymreig, gan geisio ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg a mwynhau’r Gymraeg ymhob agwedd ar eu bywydau. Mae ei chwaer-raglen, Cymraeg Campus, yn cael ei chynnal ymhob ysgol Saesneg ei chyfrwng.

Mae Ysgol y Creuddyn wedi bod yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn academaidd i gynnwys y Siarter Iaith yn ei gweithgareddau dyddiol. Mae gweithgareddau’r ysgol wedi cynnwys dathlu Dydd Santes Dwynwen a Dydd Miwsig Cymru. Maen nhw hefyd wedi bod ar deithiau preswyl i ganolfan yr Urdd yng Nglan Llun, wedi cynnal Eisteddfod ysgol, gwahodd siaradwyr i siarad am gyfleoedd astudio a gwaith yn Gymraeg, ac wedi dysgu am draddodiadau, hanes a diwylliant Cymreig.

Yn dilyn ymweliad dilysu llwyddiannus ddiwedd mis Mehefin, cyflwynwyd eu tystysgrif iddynt.

Meddai Miss Gwenno Davies, Pennaeth Ysgol y Creuddyn: “Rydym ni’n hynod falch mai ni ydi’r ysgol uwchradd cyntaf yn y sir i gyflawni Gwobr Efydd y Siarter. Mae’n adlewyrchu ein brwdfrydedd, ein creadigrwydd a’n hymrwymiad i’n disgyblion a’n staff. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau â’r daith tuag at y Wobr Arian flwyddyn nesaf.”

Meddai Dr Morgan Dafydd, Cydlynydd y Siarter Iaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda’r ysgol. Mae eu brwdfrydedd dros y Gymraeg yn disgleirio ym mhopeth a wnân nhw, ac maen nhw’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth yma. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio efo nhw wrth iddyn nhw barhau â thaith y Siarter.”

Meddai’r Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Rydw i’n falch iawn bod Ysgol y Creuddyn wedi cyflawni’r wobr hon. Mae’n adlewyrchu gwaith caled pawb yn yr ysgol i greu ethos Cymreig cryf.”

 

Ysgolion cynradd Sir Conwy sydd wedi cyflawni gwobrau’r Siarter Iaith:

  • Gwobr Ôl-Aur – Ysgol Betws yn Rhos, Ysgol Morfa Rhianedd, Ysgol Glan Morfa, Ysgol Penmachno
  • Gwobr Aur – Ysgol Bod Alaw

Gwybodaeth am y Siarter Iaith – https://www.llyw.cymru/cymraeg-addysg/ysgolion/siarter-laith Llun:

Llun: O’r chwith i’r dde – Mrs Ceri Owen (Cydlynydd Ysgolion), Dexter Martin (aelod o’r Criw Cymraeg), Dr Morgan Dafydd (Cydlynydd Sirol y Siarter Iaith), Miss Gwenno Davies (Pennaeth).

 

 

Wedi ei bostio ar 22/07/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content