Neges Destun Dwyllodrus am Barcio

Sgam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhybuddio trigolion ac ymwelwyr i fod yn wyliadwrus o neges destun dwyllodrus.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael adroddiadau gan bobl sydd wedi cael negeseuon testun yn dweud eu bod wedi cael Rhybudd Talu Cosb (dirwy barcio) gyda dolen gyswllt i dalu trwy wefan ffug .gov
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn anfon dirwyon parcio trwy neges destun.
Gallwch roi gwybod am wefannau twyllodrus i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a gallwch anfon unrhyw negeseuon testun ffug ymlaen i 7726.
Gallwch hefyd roi gwybod am y cynllun twyll i Action Fraud neu gallwch ffonio’r heddlu ar 101. Os ydych yn colli arian o ganlyniad i gynllun twyll, cysylltwch â’ch banc ar unwaith gan ddefnyddio’r rhif ffôn ar gefn eich cerdyn.
Gall pobl dalu i barcio ym meysydd parcio’r Cyngor trwy ddefnyddio arian parod, cerdyn, dros y ffôn neu trwy ap PayByPhone. Mae PayByPhone yn ffordd gyfleus o dalu am barcio gan ddefnyddio ffonau clyfar. Ar ôl cofrestru cerbyd, gall defnyddwyr dalu am barcio’n gyflym heb fod angen iddynt gario arian mân. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i fodurwyr trwy fynd i’r wefan swyddogol, sef www.paybyphone.co.uk
Wedi ei bostio ar 16/05/2025