Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu'r perthnasoedd maeth a newidiodd eu bywydau

Pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu'r perthnasoedd maeth a newidiodd eu bywydau


Summary (optional)
start content

Pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu'r perthnasoedd maeth a newidiodd eu bywydau

Foster Wales Conwy

Maethu Cymru Conwy

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu’r perthnasoedd ystyrlon y bu iddynt ddatblygu drwy’r gymuned faethu a newidiodd eu bywydau er gwell.

Eleni, mae'r Pythefnos Gofal Maeth, a gynhelir yn flynyddol ac sy'n digwydd rhwng Mai 12 a Mai 25 yn 2025, yn dathlu pŵer perthnasoedd.

Boed yn gyswllt clós rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch sy’n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy’r holl straeon maethu.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.

Rhannodd Abbey ei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu Cymru.

“Mae gen i’r gofalwyr maeth gorau erioed. Fe wnaethon nhw fy maethu ers o’n i’n 4 tan yn 17 oed. Maen nhw’n dal i fy ngweld i fel eu merch nawr, ac wedi bod yn driw i mi, hyd yn oed pan o’n i’n bod yn boen yn y pen-ôl. Dwi’n gweld fy nhad maeth fel yr unig dad dwi erioed wedi ei adnabod. Dwi’n lwcus fod gen i ddau fam yn fy mywyd.  Fe wnaethon nhw roi ail gyfle i mi i gael bywyd teuluol. Nid pawb sy’n ddigon ffodus i gael hynny.

“Bues i’n byw gyda nhw am 13 mlynedd, ac maen nhw wedi gwneud popeth i fi. Maen nhw’n fy nhrin i fel eu merch eu hunain, ynghyd â’r holl blant eraill maen nhw wedi’u maethu.

Maen nhw’n dal i brynu anrhegion i mi ar gyfer fy mhen-blwydd.  Does dim angen iddyn nhw, ond maen nhw’n dal i wneud hynny.  Dwi’n dal i’w gweld nhw drwy’r amser.  Dwi’n mynd bob un flwyddyn ar gyfer y Nadolig ac fe wnaethon nhw fy helpu i gael fflat fy hun.

“Pan rydych chi wedi cael eich dwyn i gartref rhywun arall, maen nhw’n dod i gael ein caru ni, cymaint ag rydyn ni’n eu caru nhw. Dwi’n falch o fod yn blentyn maeth iddyn nhw.”

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghonwy ewch i: Maethu yng Nghonwy | Maethu Cymru Conwy

Dewch i gwrdd â'ch tîm Maethu Cymru lleol yn

  • Diwrnod Prom Deganwy – 31 Mai 2025
  • Sioe Wledig Llanwrst – 28 Mehefin 2025
  • Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, Parc Eirias – 6 Awst 2025

 

Wedi ei bostio ar 16/05/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content