Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025.
Mae'r wythnos yn gyfle i ddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Rhwng 23 - 30 Mehefin, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau a dathliadau yn ogystal â’r cannoedd o weithgareddau, prosiectau a mentrau sy’n digwydd fel arfer bob wythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn, “Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i ni gyfnewid arferion gorau gyda gweithwyr ieuenctid ar hyd y wlad ac ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am yr ystod o weithgareddau sydd ar gael iddynt ledled Bwrdeistref Sirol Conwy.
“Dewch draw i unrhyw un o’n sesiynau i weld sut rydym ni’n dathlu eleni. Mae popeth am ddim, felly dewch draw i ymuno yn y dathlu!”
Mae Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy yn nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid gydag ystod o wasanaethau, o brosiectau celf a chrefft, garddio a sesiynau lles, i weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, mae rhywbeth at ddant pawb!
Peidiwch â cholli cyfle i gysylltu gyda ni ac eraill, cael hwyl a dathlu pwysigrwydd gwaith ieuenctid yn ein cymuned.
Os ydych chi rhwng 11–25 oed ac yn chwilio am rywbeth diddorol a hwyliog i’w wneud, ewch i www.facebook.com/GIConwyYS i gael mwy o wybodaeth.
Wedi ei bostio ar 24/06/2025