Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Eitemau treftadaeth wedi'u hasesu a'u symud

Eitemau treftadaeth wedi'u hasesu a'u symud


Summary (optional)
start content

Eitemau treftadaeth wedi'u hasesu a'u symud

Oil painting of garden with flower lined path

Un o'r eitemau i'w harwerthu yn yr ocsiwn: Paentiad olew o ardd gyda llwybr â blodau naill ochr iddo

Mae nifer o eitemau treftadaeth yr oedd yn cael eu cadw yn swyddfeydd Bodlondeb wedi cael eu symud i leoliadau newydd, a bydd y gweddill yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn.

O 31 Mai 2025, bydd gwasanaethau democrataidd a swyddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gyd wedi’u lleoli yng Nghoed Pella ym Mae Colwyn.  Yn rhan o’r broses symud, mae'r Cyngor wedi gwagio'r cynnwys o Fodlondeb, gan gynnwys rhai eitemau addurnol a threftadaeth. 

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy yn gyfrifol am gadw casgliadau amgueddfeydd a dderbyniwyd yn yr hirdymor a rhoi mynediad iddynt.  Mae'r Gwasanaeth yn caffael gwrthrychau sy'n adlewyrchu hanes, treftadaeth a diwylliant Bwrdeistref Sirol Conwy. Gall hyn gynnwys gwrthrychau a ddefnyddiwyd, a wnaed neu sy’n eiddo i unigolion yn yr ardal.

Mae’r holl eitemau treftadaeth ac addurniadol ym Modlondeb wedi’u harchwilio gan Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Conwy ac wedi’u hasesu o ran arwyddocâd gyda chymorth gan ymgynghorydd amgueddfeydd.

Roedd yr eitemau wedi’u categoreiddio fel a ganlyn:

• Eitemau sydd wedi neu a fydd yn cael eu derbyn i gasgliadau amgueddfeydd ac a fydd yn cael eu cadw yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy neu’n cael eu benthyca’n ffurfiol gan Gyngor Tref Conwy i’w harddangos yn Neuadd y Dref. 

• Eitemau i’w defnyddio mewn casgliadau o eitemau i’w cyffwrdd mewn amgueddfeydd ar gyfer gweithgareddau estyn allan 

• Eitemau archifol i'w hanfon i gael eu hasesu ac o bosibl eu cadw yn storfa Canolfan Ddiwylliant Conwy gan Wasanaeth Archifau Conwy 

• Eitemau sy’n eiddo cyfreithiol i Gyngor Tref Conwy ac a fydd yn cael eu dychwelyd iddynt

• Eitemau sy'n weddill nad ydynt yn eitemau ar gyfer yr amgueddfa ac y gellir eu gwerthu neu gael gwared arnynt.

Mae’r Addurn Crog wedi’i Frodio, Croesi’r Conwy, sydd wedi’i ychwanegu’n ffurfiol at gasgliad parhaol Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy ymhlith yr eitemau sydd wedi’u symud ar gyfer cadwraeth hirdymor.

Mae nifer o eitemau gan gynnwys plac efydd Pont Grog Telford Conwy a nifer o baentiadau wedi cael eu symud i Neuadd y Dref, lle bydd Cyngor Tref Conwy yn sicrhau eu bod nhw’n parhau i fod ar gael ac yn weladwy i'r cyhoedd.

Mae darnau sydd wedi'u hasesu yn rhai nad ydyn nhw'n eitemau ar gyfer amgueddfa, ond mae ganddyn nhw rywfaint o werth o hyd a bydd yr eitemau hyn yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant Conwy, “Nid yw’r ffaith nad oes gan yr eitemau hyn gysylltiadau cryf â Chonwy yn golygu na fyddan nhw o ddiddordeb i rywun arall. Rydym ni’n falch iawn o roi cyfle i bobl eraill brynu a mwynhau’r eitemau hyn.”

Mae Arwerthwyr Rogers Jones wedi'u penodi i werthu'r eitemau hyn sy'n weddill, sy'n cynnwys printiau, ffotograffau wedi'u fframio a dodrefn.

Bydd yr arwerthiant cyntaf yn cael ei gynnal ar 13 Mai ym Mae Colwyn, a bydd pedwar paentiad yn mynd i ocsiwn arbenigol yn y dyfodol yng Nghaerdydd.

Wedi ei bostio ar 09/05/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content