Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Adeiladu croesfan newydd i'r afon ar safle Pont y Soldiwr

Adeiladu croesfan newydd i'r afon ar safle Pont y Soldiwr


Summary (optional)
start content

Adeiladu croesfan newydd i'r afon ar safle Pont y Soldiwr

Sappers Bridge - Proposed View

Dyluniad arfaethedig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi bod gwaith yn dechrau ar ddarparu pont newydd dros Afon Conwy ger gorsaf reilffordd Betws-y-coed.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar wahanol ddewisiadau, mae’r dyluniad a ddewiswyd yn bont grog 50 metr o hyd â dau dŵr addurnedig yn arddull yr hen bont hanesyddol. Bydd y bont newydd yn hygyrch i bawb ac yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gwella’r llwybrau y naill ochr i’r bont ar Ffordd Hen Eglwys a’r A470.  Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ledu’r llwybr presennol wrth ymyl yr A470 am 800 metr, o’r man lle mae llwybr y bont yn cyrraedd yr A470 hyd ganolfan astudiaethau maes Rhyd-y-Creuau.

Grant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n talu am ddylunio ac adeiladu’r bont ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y gwaith ar yr A470.

Caewyd Pont y Soldiwr cyn Nadolig 2021 yn sgil pryderon am ddiogelwch. Dangosodd adolygiad strwythurol fod problemau sylweddol â’r bont, a adeiladwyd ym 1930, yn cynnwys problemau â’r estyll pren, y ceblau crog dur, y tyrau, a’r sylfeini.

Mae cyfyngiadau i ddiogelu pysgod yn ystod y tymor silio yn golygu yr adeiledir y bont mewn dau gam – o fis Ebrill i fis Hydref 2025, ac yna o fis Ebrill 2026. Disgwylir y bydd y bont a’r llwybr yn barod i’w defnyddio yn ystod haf 2026.

Bydd Ffordd Hen Eglwys ynghau ar adegau i hwyluso’r gwaith ar sylfeini’r bont a’r llwybr newydd. Lle bo modd, bydd y contractwyr yn defnyddio goleuadau traffig yn ystod y dydd a dim ond yn cau’r ffordd yn y nos.

MWT Civil Engineering o Fae Colwyn sy’n gwneud y gwaith.

Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Isadeiledd: “Rydym yn falch o allu dechrau’r gwaith ar y bont newydd ym Metws-y-coed. Bydd y cynllun modern yn galluogi pawb i fwynhau croesi’r afon – bydd o fudd i bobl leol ac ymwelwyr. Hoffem ddiolch i breswylwyr a busnesau am eu hamynedd tra mae’r gwaith yn cael ei wneud.”

 

Wedi ei bostio ar 25/04/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content