Deg Parc yn Sir Conwy yn cael eu henwi ymhlith mannau gwyrdd gorau'r wlad

Gwobr y Faner Werdd
Wrth i elusen Cadwch Gymru’n Daclus ddatgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – nod cenedlaethol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd – mae Aelod Cabinet Conwy’n llongyfarch y rheiny a gyfrannodd at y llwyddiant.
Mae deg o barciau a mannau gwyrdd Conwy wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd neu Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
“Diolch i waith caled Grwpiau Cyfeillion, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, staff Mannau Agored a staff Cartrefi Conwy, sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod mannau gwyrdd yn Sir Conwy’n cyrraedd y safonau uchel hyn.
“Ac mae gan bawb sy’n defnyddio parciau a mannau agored ran i’w gwneud hefyd, drwy barchu’r lleoedd hyn a chael gwared â sbwriel mewn modd cyfrifol neu fynd ag o adref gyda nhw.
“Rwyf wrth fy modd fod y parciau a’r mannau gwyrdd yma wedi derbyn Baneri Gwyrdd – da iawn a diolch i bawb a fu’n rhan o hyn.”
Mae’r nifer uchaf erioed o barciau a mannau gwyrdd ar draws Cymru wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i hedfan y Faner Werdd flaenllaw.
Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi bod 315 o safleoedd wedi derbyn gwobr Y Faner Werdd a Gwobr Y Faner Werdd Gymunedol, sydd yn adnabyddus yn fyd-eang.
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae gwobr Y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd yn cael eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.
Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydym wrth ein bodd i weld bod 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws blaenllaw y Faner Werdd, sydd yn dangos ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.
“Mae mannau gwyrdd o ansawdd yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael eich cydnabod gyda’r gorau yn y byd yn gyflawniad mawr - Llongyfarchiadau!”
Mae rhestr lawn o’r enillwyr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru
Am fwy o wybodaeth am Wobr Y Faner Werdd yng Nghymru ewch i: https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/y-faner-werdd-ar-gyfer-parciau/
Wedi ei bostio ar 16/07/2025