Mae Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR) yn gofyn am roi gwybod am rai mathau o anafiadau, clefydau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith, i'r awdurdod gorfodi ar gyfer iechyd a diogelwch (gall hwn fod yn Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch).
Pwy ddylai roi gwybod?
Dim ond 'personau cyfrifol' yn cynnwys cyflogwyr, unigolion hunangyflogedig a phobl sy'n rheoli adeilad gwaith a ddylai gyflwyno adroddiadau o dan RIDDOR. Os ydych yn weithiwr neu'n aelod o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, cyfeiriwch at ein tudalen Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch.
Beth sydd angen ei adrodd?
- Marwolaeth neu anafiadau penodol i weithiwr neu berson hunangyflogedig sy'n gweithio yn eich adeilad
- Aelod o’r cyhoedd yn marw neu’n mynd i’r ysbyty
Rhaid rhoi gwybod am y rhain yn ddi-oed (fel arfer dros y ffôn) a’i ddilyn i fyny gyda ffurflen adrodd ar-lein o fewn 10 diwrnod.
- Gweithiwr neu berson hunangyflogedig sy'n gweithio yn eich adeilad yn cael anaf sy’n para dros saith niwrnod
- Clefyd a ddioddefwyd gan weithiwr sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith
- Digwyddiad Peryglus nad yw'n arwain at anaf ond a allai yn amlwg fod wedi gwneud hynny.
Mae'n rhaid i'r rhain gael eu hadrodd o fewn 10 diwrnod.
Sut i roi gwybod
Gellir rhoi gwybod am yr holl ddigwyddiadau ar-lein ond mae gwasanaeth ffôn yn parhau i fod ar gael ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau angheuol a mawr yn unig - ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Digwyddiadau ar 0345 300 9923.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y bydd y digwyddiad neu ddamwain yn cael ei adrodd ar-lein, caiff ei ddyrannu yn awtomatig i'r awdurdod gorfodi priodol. Yna efallai y bydd rhywun yn cysylltu â chi i gael manylion pellach am y digwyddiad neu ymweliad i'ch eiddo i ymchwilio ymhellach. Ni fydd pob damwain a adroddir yn cael ei ymchwilio gan yr awdurdod, yn dibynnu ar y natur a difrifoldeb.