Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Lletya Anifeiliaid


Summary (optional)
I redeg cytiau cŵn neu lety cathod, byddwch angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol. Bydd nifer y cŵn neu’r cathod y gallwch eu cadw wedi’i nodi ar y drwydded, yn ogystal ag amodau penodol eraill. Mae "sefydliad lletya" hefyd yn cynnwys y busnes o letya cŵn yn y cartref a gofal dydd neu crèche i gŵn.
start content

Dylid gwneud ceisiadau am drwydded newydd neu adnewyddu trwydded yn electronig drwy ddefnyddio'r ddolen uchod.

Ffioedd

Mae cais / adnewyddu trwydded lletya anifeiliaid yn costio £224 a gellir ei dalu ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen uchod.  Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 12 mis a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.   

Cymhwyster

Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:

  • Cadw sefydliad bridio cŵn
  • Cadw siop anifeiliaid anwes
  • Cadw ci
  • Cadw sefydliad anifeiliaid
  • Cadw anifeiliaid

Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.

Dogfennau Ategol

Dylai'r dogfennau canlynol hefyd gael eu cyflwyno gyda'ch cais:

  • Cynllun safle a chynllun gosodiad
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus

Prosesu ac Amserlenni

Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni. 

Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.

Ni all unrhyw un redeg sefydliad lletya heb gael trwydded yn gyntaf.


Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 ac amodau cysylltiedig. Mae angen trwydded lletya anifeiliaid ar gyfer cytiau cŵn, llety cathod, llety cŵn yn y cartref, gofal dydd neu unrhyw gyfuniad o'r uchod.

Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu

Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

Amodau Cytiau Cŵn

Amodau gofal dydd i gŵn

Amodau Lletya Cathod

Amodau Lletya Cŵn Yn Y Cartref

Amodau'r Drwydded Ar Gyfer Gofal Dydd I Gŵn Mewn Lleoliadau Masnachol

Cysylltwch â ni

 Am unrhyw ymholiad ynglŷn â lletya anifeiliaid anfonwch e-bost i animal.licensing@conwy.gov.uk.

end content