Bwriad y drwydded yw diogelu iechyd a lles yr anifail a sicrhau ei ddiogelwch a diogelwch pobl
eraill. Enghreifftiau o anifeiliaid gwyllt peryglus yw:
- Rhai mathau o fwncïod
- Nadroedd gwenwynig ac ymlusgiaid peryglus eraill
- Baedd gwyllt
- Estrys ac emiwod
Efallai y bydd angen i anifeiliaid hybrid neu wedi’u croesfridio gael trwydded, yn dibynnu ar ba mor bell yw'r anifail o'i hynafiad gwyllt Gweler y rhestr lawn o anifeiliaid y mae arnoch angen trwydded ar eu cyfer.
Sut i wneud cais
I wneud cais am drwydded anifeiliaid gwyllt peryglus, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.
Ffioedd
Mae cais / adnewyddu trwydded anifail gwyllt yn costio £155 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd). Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 2 flynedd a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.
Cymhwyster
Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:
- Cadw sefydliad bridio cŵn
- Cadw siop anifeiliaid anwes
- Cadw sefydliad anifeiliaid
- Cadw anifeiliaid
Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.
Dogfennau Ategol
Amherthnasol
Prosesu ac Amserlenni
Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.
Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.
Ni all unrhyw un fod yn berchen ar anifail gwyllt peryglus heb gael trwydded yn gyntaf.
Deddfwriaeth ac Amodau
Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 ac amodau cysylltiedig.
Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu
Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.
Rhoi gwybod am broblem
Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch anifail gwyllt peryglus, anfonwch e-bost at animal.licensing@conwy.gov.uk