Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais neu adnewyddu trwydded bridio cŵn trwy glicio ar y botwm isod. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am y cais hwn, a bydd angen cerdyn debyd neu gredyd er mwyn gwneud hynny.
Fel rhan o’r cais ar-lein hwn, rhaid cwblhau’r Cynllun Gwella a Chyfoethogi a Chynllun Cymdeithasu Cŵn Bach fel rhan o’r amodau trwydded a deddfwriaeth cysylltiedig.
Rhaid atodi copi o adroddiad milfeddygon ar gyfer pob ci (mae ffotograffau neu sganiau yn dderbyniol, cyn belled fod yr wybodaeth berthnasol yn glir).
Ffioedd
Mae cais / adnewyddu trwydded bridio’n costio £234 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd). Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 12 mis a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.
Cymhwyster
Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:
- Cadw sefydliad bridio cŵn
- Cadw siop anifeiliaid anwes
- Cadw ci
- Cadw sefydliad anifeiliaid
- Cadw anifeiliaid
Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.
Gwybodaeth Ategol
Fel rhan o'r broses o wneud cais, bydd gofyn i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol:
- Cynllun yr Amgylchedd a Chyfoethogi
- Cynllun Cymdeithasoli
Prosesu ac Amserlenni
Os mai hwn yw eich cais cyntaf am drwydded, yna mae'n rhaid i’ch safle gael ei archwilio gan filfeddyg cymeradwy a swyddog awdurdod lleol. Ar gyfer ceisiadau dilynol, mae'r archwiliad fel arfer yn cael ei wneud gan y swyddog awdurdod lleol.
Byddwn yn delio â cheisiadau o fewn 28 diwrnod. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.
Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.
Ni all unrhyw un gadw sefydliad bridio heb gael trwydded yn gyntaf.
Deddfwriaeth ac Amodau
Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 ac amodau cysylltiedig.
Bydd milfeddyg a / neu Arolygydd yr Awdurdod Lleol yn ymweld ac yn awyddus i weld bod cŵn yn:
- byw mewn llety addas
- cael digon o fwyd, dŵr a gwely
- cael digon o ymarfer corff
- cael eu cludo mewn amodau diogel a chyfforddus
- cael eu diogelu mewn achos o dân neu argyfwng arall
- cael eu diogelu rhag clefyd sy’n lledaenu
Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu
Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.
Rhoi gwybod am broblem
Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch sefydliadau bridio cŵn, anfonwch e-bost at licensing@conwy.gov.uk