Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Anifeiliaid perfformio


Summary (optional)
Os ydych yn arddangos, yn defnyddio neu’n hyfforddi anifeiliaid perfformio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r awdurdod lleol.
start content

 

Ffioedd

Mae cais / adnewyddu trwydded anifail perfformio yn costio £172 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd).  Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 2 flynedd a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.

Cymhwyster

Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth.

Dogfennau Ategol

Rhaid i geisiadau gynnwys manylion ynghylch yr anifeiliaid a'r perfformiadau y maent i gymryd rhan ynddynt.

Prosesu ac Amserlenni

Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, llenwch ein ffurflen ymholiad ar-lein.  

Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.

Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddiad) 1925 ac amodau cysylltiedig.

Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu

Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

Rhoi gwybod am broblem

Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch anifail gwyllt peryglus, anfonwch e-bost at animal.licensing@conwy.gov.uk

end content