Sut i wneud cais
Gydymffurfio â’r Polisi Masnachu ar y Stryd 2022
Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig i'r Cyngor gan ddefnyddio'r ffurflen gais berthnasol, sy’n gorfod cynnwys:
- Manylion yr holl strydoedd neu strydoedd yr hoffech fasnachu arnynt
- Y math o nwyddau sy'n cael eu gwerthu
- Y dyddiau a'r amseroedd y dymunwch fasnachu a’r nwyddau neu’r eitemau rydych yn bwriadu eu gwerthu.
- Y math o gerbyd / ciosg sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwerthu nwyddau.
- Byddwch hefyd dros 17 oed ac angen darparu dau lun o'ch hun, ac unrhyw gymhorthwyr
Bydd trwyddedau’n cael eu gwrthod os bydd unrhyw un o'r seiliau canlynol yn bodoli:
- Nid oes digon o le ar y stryd rydych yn dymuno masnachu arni, heb achosi ymyrraeth neu anghyfleustra i ddefnyddwyr y stryd
- Rydych yn anaddas i ddal trwydded am unrhyw reswm a wnaed yn hysbys i'r Cyngor
- Rydych wedi methu talu ffioedd sy'n ddyledus yn y gorffennol dan ganiatâd masnachu ar y stryd arall
- Os yw'r cais yn ymwneud â stryd waharddedig
- Unrhyw reswm rhesymol arall
Ffioedd
Prif Safle Sefydlog
- Caniatâd Sefydlog: £1,360.00
Safle Safonol
- Caniatâd Sefydlog (Blynyddol): £920.00
- Caniatâd Crwydrol: £920.00
Marchnad fasnachol/deithiol (ac eithrio strydoedd gwaharddedig)
Digwyddiad arbennig/tymhorol (ac eithrio strydoedd gwaharddedig)
- Fesul diwrnod: £40
- Adnabod masnachwr /cymhorthydd: £30
- Caniatâd / Trwydded Amnewid (papur): £25.00
- Gwiriad cyn ymgeisio: £30.00
- Cyngor cyn ymgeisio: £50.00 1 awr (yn cynnwys gwiriad)
- Plât Cerbyd neywdd: £35.00
Cymhwyster
Bydd y cyngor naill ai’n caniatáu’r cais neu’n cyflwyno rhybudd i chi o fewn amser rhesymol.
Bydd y Cyngor yn ymgynghori os bydd angen, gydag unrhyw asiantaeth neu sefydliad yr ystyrir yn addas.
Bydd y rhybudd yn cael ei gyflwyno os bydd y cyngor yn bwriadu gwrthod y cais, yn ei ganiatáu ar wahanol delerau i'r rhai y gwnaethpwyd cais amdanynt, cyfyngu masnachu i le penodol mewn stryd, amrywio amodau trwydded neu ddirymu trwydded.
Mae'r rhybudd yn manylu rhesymau dros eu penderfyniad ac yn datgan, o fewn saith niwrnod i'r rhybudd, y gallwch ofyn yn ysgrifenedig am y cyfle i wneud sylwadau.
Deddfwriaeth ac Amodau
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
Prosesu ac Amserlenni
Caiff pob cais ei ystyried ar eu rhinweddau eu hunain a bydd y drwydded yn cael ei chynhyrchu ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo.
Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:
Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod Caniatâd Masnachu ar y Stryd. Fodd bynnag, efallai y bydd y penderfyniad neu'r weithdrefn a ddilynir gan y Cyngor yn agored i gais i Adolygiad Barnwrol.
Manylion cyswllt: