Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwyddedu Tacsi


Summary (optional)
Gwybodaeth ar Drwyddedu Tacsis ar gyfer ymgeiswyr presennol a newydd
start grid

Mae dau fath o gerbyd:

Cerbyd Hacni a Hurio Preifat

  • Gellir hurio cerbyd hacni ar ranc, ei alw yn y stryd neu ei archebu trwy weithredwr.
  • Dim ond trwy weithredwr y gellir archebu cerbyd hurio preifat.

Rhaid i’r gyrrwr, gweithredwr a’r cerbyd gael ei drwyddedu gan yr un awdurdod

Fe fydd y cerdyn tariff newydd yn dod i rym ar 18 Chwefror 2022, ac mae’n rhaid ail-galibro pob mesurydd talu i’r prisiau newydd erbyn 1 Mawrth 2022 fan bellaf.


Gellir cwblhau pob cais ar-lein


Cerbyd Hacni


Llogi Preifat


Archebwch Archwiliad Cerbyd


Cerdyn Tariff Newydd

Fe fydd y cerdyn tariff newydd yn dod i rym ar 18 Chwefror 2022, ac mae’n rhaid ail-galibro pob mesurydd talu i’r prisiau newydd erbyn 1 Mawrth 2022 fan bellaf.

Mae’n rhaid arddangos y cerdyn prisiau drwy’r amser mewn cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat sydd â mesurydd talu.

Mae’n rhaid arddangos y cerdyn prisiau mewn man amlwg lle gall y cyhoedd ei weld ar unrhyw adeg.

Ni ddylid newid fformat y cerdyn prisiau sydd ar ddangos (heblaw am ei wneud yn fwy).

Os byddwch chi’n dewis peidio calibro eich mesurydd talu i’r pris uchafswm a ganiateir, rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Drwyddedu yn ysgrifenedig beth yw’r pris yr hoffech ei godi o fewn saith niwrnod ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn. Rhaid i chi hefyd arddangos y pris yr hoffech ei godi mewn fformat tebyg mewn man amlwg lle gall y cyhoedd ei weld ar unrhyw adeg.

Cerdyn Tocyn Cerbyd Hacni (PDF, 148KB)

end grid