Rhaid i'r digwyddiadau fod o arwyddocâd rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol neu leol a rhaid iddynt ddenu ymwelwyr a thwristiaid;
- Gallwn hyrwyddo eich digwyddiad ar y wefan fisoedd neu wythnosau o flaen llaw, ond rydym yn gofyn am tua 5 diwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth cyn mynd yn fyw - cadwch hyn mewn cof os yw eich digwyddiad yn digwydd yn fuan;
- Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i baratoi cofnod ar restr fisol 'Digwyddiadau yn Sir Conwy'. I sicrhau cofnod ar y rhestr ddigwyddiadau, rhaid i ni dderbyn gwybodaeth am eich digwyddiad erbyn y 15fed o'r mis cyn eich digwyddiad (h.y. 15 Mawrth ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ym mis Ebrill). Bydd gwybodaeth a dderbynnir ar ôl y 15fed yn cael ei hyrwyddo ar y wefan yn unig.
- Y Cyngor fydd yn penderfynu pa ddigwyddiadau a gaiff eu cynnwys ar y rhestr, ni dderbynnir unrhyw ddigwyddiadau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf uchod;
- Ni chodir tâl am roi digwyddiad ar y rhestr.