Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cronfa Gwella Eiddo Masnachol

Cronfa Gwella Eiddo Masnachol


Summary (optional)
Cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi blaenoriaeth Bae Colwyn, Abergele a Phensarn, a Llandudno.
start content

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi blaenoriaeth Bae Colwyn, Abergele a Phensarn, a Llandudno.  

Gellir defnyddio’r grant i wella blaen adeiladau, rhoi defnydd busnes buddiol i arwynebedd llawr masnachol gwag, neu roi ail-bwrpas i eiddo lle bo hynny'n briodol - er enghraifft rhoddir ystyriaeth i swyddfeydd, manwerthu a bwyd a diod. 

Mae’r gronfa ar gael i berchnogion rhydd-ddaliadol yr eiddo, neu feddianwyr sydd â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy ar ôl ar ddyddiad y cais, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.  

Disgwylir i bob prosiect a gefnogir gan y cynllun gyfrannu at rai o’r allbynnau canlynol yn Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru:

  • Nifer y swyddi yn y lleoliad (a alluogwyd trwy’r buddsoddiad adfywio)
  • Mentrau / busnesau yn y lleoliad
  • Nifer y metrau sgwâr a grëwyd neu a ailwampiwyd fel safle amhreswyl
  • Nifer y safleoedd amhreswyl a grëwyd neu a ailwampiwyd
  • Nifer yr unedau amhreswyl sydd yn cael eu defnyddio eto
  • Nifer y BBaChau yng Nghymru sy’n sicrhau contractau’n llwyddiannus
  • Gwerth y contractau a ddyfernir i BBaChau yng Nghymru

I drafod eich cynnig, cysylltwch â:

Caroline Tabberer
Swyddog Prosiect Eiddo ac Adfywio

Rhif Ffôn: 01492 574574
E-bost: regen@conwy.gov.uk

transforming-town-logo-welshgov

end content