Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Prosiectau Ewropeaidd Cyfredol yng Nghonwy

Prosiectau Ewropeaidd Cyfredol yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Ein Prosiectau yng Nghonwy

Dyma’r holl brosiectau yr ydym yn ymwneud â nhw yng Nghonwy.  Maent i gyd yn helpu ac yn fuddiol i’n preswylwyr. 

Mae'r prosiectau hyn wedi cael eu cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Mae’r gronfa hon yn cefnogi cyflogaeth.  Gall y prosiectau sydd â’r math yma o arian helpu pobl i wella eu sgiliau a gall helpu pobl sy’n cael trafferth dod o hyd i waith.

ADTRAC 16-24 (Daeth y prosiect yma i ben mis Gorffennaf 2021)

Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai

Mae’r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc 16-24 oed sydd 'Ddim mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant’ (NEET).

TRAC 11-24

Dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect yn helpu pobl ifanc 11-24 oed sydd mewn risg o dynnu allan o addysg ac sydd mewn risg o fod 'Ddim mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant’ (NEET). Mae ein tîm TRAC yn helpu pobl ifanc yn eu blynyddoedd olaf o ysgol gynradd ac ysgol uwchradd (11-16 oed). Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cefnogi pobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol (16-24).

STEM Gogledd

Dan arweiniad Cyngor Sir Gwynedd

Mae hwn yn brosiect i gynyddu’r nifer o ddisgyblion 11-19 oed sy’n astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.   Mae’r gweithgareddau yn cynnwys adnoddau ar-lein a diwrnodau gweithgareddau STEM.  Mae hyn i gyd yn cefnogi beth mae'r ysgolion yn eu gwneud yn barod.

Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Gogledd Cymru

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cafodd y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol ei sefydlu yn wreiddiol i sicrhau ymgysylltu tryloyw traws sector ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru, gan sicrhau  bod cynigion ar gyfer Cronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd wedi’i alinio gyda’r uchelgeisiau strategol rhanbarthol.

Mae’r tîm nawr yn esblygu i gefnogi Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru, strategaethau rhanbarthol, ffyrdd o weithio a buddsoddi, a bydd yn gweithio’n agos gyda Swyddog Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Timau Rhanbarthol o fewn Llywodraeth Cymru.

OPUS (Daeth y prosiect yma i ben mis Awst 2019)

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Roedd y prosiect ar gyfer pobl 25+ oed nad oedd yn byw yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a oedd yn economaidd anweithgar neu yn ddi-waith yn hirdymor, y rhai pellaf i’w cyrraedd gyda nifer o rwystrau i sgiliau a chyflogaeth.

Cymunedau ar gyfer Gwaith

Mae prosiectau Cymunedau ar gyfer Gwaith Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ardaloedd Cymunedau ar gyfer Gwaith yn unig. Mae Cymunedau ar gyfer Gwaith yn helpu pobl sydd â rhwystrau i sgiliau a chyflogaeth.  Mae’n rhaid i bobl fod 25+ i fod yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith yn hirdymor a ‘Ddim mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant’ (16-24 oed).

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Dyma gronfa i'n helpu ni i fuddsoddi yn ein seilwaith a’n gwasanaethau.  Mae hyn yn helpu i ddenu buddsoddiadau eraill a chreu swyddi yng Nghonwy.

Safle Cyflogaeth Ffordd Penmaen, Morfa Conwy

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae’r prosiect yma yn paratoi’r safle ar gyfer plotiau ac adeiladu pedair uned newydd.  Bydd tua 6,000 metr sgwâr o adeiladau a bydd hyn yn helpu busnesau lleol i ehangu a dod â busnesau a swyddi newydd i'r ardal.

Cyrchfannau Denu Twristiaeth (Croeso Cymru) - Prosiect Y Glannau

Dan arweiniad Croeso Cymru

Cafodd y gwaith Gwella Amgylcheddol ar gyfer Cam 1 ei gwblhau o dan Raglen Adfywio Trefi Arfordirol Llywodraeth Cymru.  Cafodd hyn ei ariannu trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ynghyd â chyllid Ardal Adfywio Strategol Llywodraeth Cymru.  

Mae Cam 2 y Prosiect wedi ei wneud o dan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru, gyda chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ogystal â chynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Mae Cam 2 yn cynnwys gwelliannau amgylcheddol i'r promenâd rhwng y pier a’r Cayley Bank.  Mae hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r amddiffynfa arfordirol, adeilad newydd ar gyfer caffi a gosod y llythrennau ‘COLWYN’.

Cyrchfannau Denu Twristiaeth (Croeso Cymru) - Prosiect Venue Cymru

Dan arweiniad Croeso Cymru

Bydd y prosiect yn ailgyflunio'r cynllun tu mewn i’r lleoliad er mwyn i ni wneud defnydd gwell o'r gofod.  Bydd hyn yn helpu’r lleoliad i gynnal y rhaglen amrywiol o sioeau a digwyddiadau.  Bydd ansawdd gwell yr hyn y gall y lleoliad ei gynnig hefyd yn denu llawer mwy o ymwelwyr i Ogledd Cymru a Venue Cymru a bydd yn helpu i ymestyn y tymor ymwelwyr.

Mae’r Prosiect o dan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru, gyda chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, 7 Ffordd Abergele, Bae Colwyn

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae’r prosiect hwn yn adnewyddu adeilad rhestredig gradd II diffaith.  Bydd y gwaith yn creu gofod gweithio newydd ac ardaloedd cyfarfod ar gyfer pobl a busnesau yn y diwydiant creadigol. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyllid Ewropeaidd.

ERDF Port RGB  ESF Port RGB

end content