Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU


Summary (optional)
start content

DIWEDDARAF: Mae’r alwad gyntaf am brosiectau UKSPF yng Ngogledd Cymru bellach wedi cau.

Derbyniwyd 299 o geisiadau, gwerth dros £250m.

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa yw: Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa a gellir ei weld yn: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy  

Mae’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r Gronfa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael oddi wrth: https://www.gov.uk/government/collections/new-levelling-up-and-community-investments

content

content

content

content

content

content

 

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngogledd Cymru yn dilyn proses dau gam:

  • Cam 1 : cyflwyno cais prosiect amlinellol
  • Cam 2 : cyflwyno cais prosiect manwl

Bydd Awdurdodau Lleol yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2.

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau fydd:

  1. Bydd y cais yn cael ei werthuso gan y tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin lleol perthnasol (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol yn unig) neu dîm rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol).
  2. Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
  3. Bydd y Panel Cynghori Lleol (neu Baneli yn achos prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol) yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i'r Awdurdod / Awdurdodau Lleol.
  4. Awdurdod / Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau y maent am eu cefnogi
  5. Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
  6. Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2
  7. Wedi i'r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; asesiadau pellach  a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
  8. Awdurdod Lleol / Awdurdodau yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais
  9. Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Awdurdod / Awdurdodau Lleol.

Bydd yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn amrywio yn ôl y broses / trefn bob Awdurdod Lleol. Mae gwybodaeth am yr amserlen a ragwelir ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gael ar eu gwefan.

Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi’r Cyngor(au) i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:

https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Gwybodaeth/Datganiadau-Preifatrwydd-Gwasanaethau/Cronfa-Ffyniant-Gyffredin-y-DU-Datganiad-Preifatrwydd.aspx

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Diweddariadau Blaenorol


Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â’r Awdurdod Lleol/Awdurdodau perthnasol a’r Gronfa Ffyniant a Rennir: Tîm Gogledd Cymru os ydych am gyflwyno prosiect ar draws mwy nag un Ardal Awdurdod Lleol:

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Ynys Môn
gwe: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Busnes/Datblygu-economaidd/Cronfa-Ffyniant-Gyffredin-Ynys-Mon-SPF.aspx

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd:
gwe: www.gwynedd.llyw.cymru/CronfaFfyniantGyffredin 
e-bost: FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru  

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Conwy
e-bost: sharedprosperityfund@conwy.gov.uk

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Sir Ddinbych
gwe: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du.aspx

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Sir y Fflint
gwe: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/UK-Shared-Prosperity-Fund.aspx

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Wrecsam
gwe: https://www.wrecsam.gov.uk/CronfaFfyniantGyffredin

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru
gwe: www.FfyniantGyffredinGogledd.Cymru  
e-bost: ymholiadau@FfyniantGyffredinGogledd.Cymru  

 

end content