Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn rhaglen gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Ei nod yw cefnogi pobl a chymunedau sydd ei angen fwyaf ledled y DU, i brofi rhaglenni a dulliau newydd o weithio, i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, y gymuned a lle, busnesau lleol, a chefnogi pobl i ganfod swyddi.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: UK Community Renewal Fund Prospectus (gov.uk)
Prosiectau Cymeradwy
Y 10 prosiect a gymeradwywyd ar gyfer Sir Conwy, am gyfanswm o £2,235,522 o arian grant Llywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yw:
Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory - Cynllun Addysg Beirianneg Cymru Cyf
Creu a phrofi gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6, a disgyblion ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 10 ac 11, i ymgysylltu a’u diddori mewn ystod o yrfaoedd ar gael yn y meysydd Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Pellach, Creadigol a Digidol, ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth. Bydd gweithgareddau’n cynnwys agweddau ar Gynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAM), argraffu 3D a gweithgareddau codio. Bwriad y prosiect peilot yw darparu gweithgareddau cychwynnol a ellir cefnogi disgyblion yn ystod cyfnodau pontio eu haddysg.
Cyswllt: Rebecca Davies - rebecca@eesw.org.uk neu Aimee Thomas - aimee@eesw.org.uk
Canolbwynt Arloesedd Twristiaeth Conwy - Grŵp Llandrillo Menai
Mae’r prosiect yn cynnwys cyfres o fentrau i greu a chymhwyso arloesedd o fewn diwydiant twristiaeth bywiog y dref ac economi ymwelwyr. Nod y prosiect yw helpu meithrin gwytnwch ymysg busnesau, gwella effeithlonrwydd a chreu awch cystadleuol ar gyfer sefydliadau yn y dref. Dylai fod busnesau’n gallu elwa’n unigol hefyd, yn ogystal â gweithio ar y cyd i ddatblygu capasiti i dyfu.
Cyswllt: Gary Jones - jones37g@gllm.ac.uk
Conwy Ddigidol a Chreadigol - Parc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc)
Mae’r cynnig ar gyfer academi sgiliau a chyflymydd busnes, i ddarparu ystod eang o weithdai a sesiynau rhyngweithiol i ddarpar weithwyr. Mae’n cynnwys adolygiadau digidol ar gyfer busnesau a throsolwg o gynlluniau Sero Net, yn ogystal ag adolygiadau sy’n mesur ôl troed diwydiant, gyda gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor yn darparu mapio ffyrdd a phecynnau gwaith i fusnesau.
Cyswllt: Emily Roberts - e.j.roberts@bangor.ac.uk
Prosiect Cysylltiadau Cymunedol Towyn a Bae Cinmel - Cyngor Tref Towyn a Bae Cinmel
Sefydlu Partneriaeth Gymunedol ar gyfer Towyn a Bae Cinmel. Nod y bartneriaeth yw casglu tystiolaeth a gweithio i ddeall y materion sy’n wynebu’r gymuned, siarad â’r gymuned am asedau a heriau o fewn yr ardal, a nodi camau gweithredu i fynd i’r afael â’r rhain; cytuno ar flaenoriaeth yn ôl yr angen o fewn y gymuned i’w gwireddu a datblygu pecyn gwaith gweithredu sy’n uwchsgilio’r gymuned gyda chyd-ddarpariaeth.
Cyswllt: Dylan Thomas - clerk@tkbtc.co.uk
Rhaglen Sgiliau a Chyflogadwyedd ar gyfer Adfer a Thwf - CBS Conwy
Cyfres o brosiectau peilot sy’n cynnwys cefnogaeth cyn cyflogaeth, cwnsela therapiwtig ar gyfer unigolion â rhwystrau iechyd meddwl o ran cael gwaith, gwaith ymchwil dysgu gweithredol i werthuso effaith y peilot, llwybr, cyrsiau hyfforddiant llwybr a datblygiad yn y sectorau blaenoriaeth ac astudiaeth dichonoldeb i nodi model er mwyn sefydlu grŵp cynhwysiant digidol amlasiantaethol yn y gymuned. Gyda’r nod o helpu a chefnogi pobl i ddod dros sawl rhwystr o ran cael gwaith, gyda dull o weithio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chryfderau, eu helpu gyda chwilio am swyddi neu gyrsiau byr, i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith.
Cyswllt: Libby Duo - libby.duo@conwy.gov.uk
Datblygu Strategaeth Ddiwylliant Conwy - CBS Conwy
Creu Menter Partneriaeth Ddiwylliannol i ddarparu arweinyddiaeth a chydlyniad cyffredinol o’r Strategaeth Ddiwylliant a phum Tîm Trefi i oruchwylio cynlluniau gweithredu sbotolau ar gyfer ein prif drefi. Yn ogystal â hynny, datblygu Cronfa Menter Ddiwylliannol a chreu lleoedd, sydd wedi’i arwain gan ddiwylliant. Mae’r prosiect yn cynnwys dwy astudiaeth ddichonoldeb; bydd y gyntaf yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer cynyddu defnydd geiriau Cymraeg/y Gymraeg i wella croesawu ymwelwyr a chreu profiad mwy gwir i’r ymwelydd. Bydd yr ail yn archwilio ac yn gwneud argymhellion ar brosiectau diwylliant er lles, i’w datblygu dan strategaeth Creu Conwy.
Cyswllt: Helen Goddard - helen.goddard@conwy.gov.uk
Cefnogaeth a Datblygiad Conwy Wledig - CBS Conwy
Ymhelaethu ar waith y tîm Gwledig sydd eisoes wedi’i sefydlu er mwyn: galluogi a chefnogi llywodraethu Cynghorau Tref a Chymuned; ehangu’r cynllun Cludiant Cymunedol; dichonolrwydd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach; cefnogi cyflwyno band eang ffibr i ardaloedd gwledig Conwy.
Cyswllt: Tom Jones - tom.jones@conwy.gov.uk
Gwaith ymchwil ar effaith Covid-19 ar ganol ein trefi - CBS Conwy
Bydd y prosiect yn cyflawni gwerthusiad o sefyllfa bresennol 12 canol tref ac ardal Bwrdeistref Sirol Conwy, a fydd yn casglu, nid yn unig effeithiau pandemig Covid-19, ond yn nodi patrymau hirdymor cyn y pandemig hefyd. Bydd y prosiect hwn yn comisiynu astudiaeth i edrych yn benodol ar: ddeall effaith patrymau gwaith yn y dyfodol, a’r effeithiau ar ganol trefi, gan gynnwys effaith ganlyniadol ar nifer yr ymwelwyr, gwariant, gweithio o gartref, a’r angen ar gyfer canolbwyntiau swyddfa gweithio ar y cyd yng nghanol y dref. Effaith yr uchod ar y galw am ofod swyddfa, preswyl, gofod gweithio i denantiaid, eiddo a thir. Bydd hyn yn cynnwys datblygu strategaeth cartrefi modur ar gyfer Conwy.
Cyswllt: Caroline Tabberer - caroline.tabberer@conwy.gov.uk
Llwyfannau cefnogaeth ddigidol ar gyfer busnesau a chymunedau yng Nghonwy - CBS Conwy
Datblygu cyfres o adnoddau ar-lein sydd ar gael i sector busnes a chymunedau lleol, sy’n cefnogi adferiad a datblygiad economaidd. Dwy ffrwd waith: Cronfa Ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid a Chyfeiriadur; datblygu Rhaglen Llysgennad Twristiaeth, modiwlau ychwanegol sy’n trin cyflogaeth mewn twristiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid, twristiaeth gynaliadwy werdd a diogelwch ymwelwyr ar y mynyddoedd neu’r môr.
Cyswllt:
Amanda Ballance - Cronfa Ddata a Chyfeiriadur - amanda.ballance@conwy.gov.uk
Gwen Roberts - Rhaglen Llysgennad Twristiaeth - gwen.roberts@conwy.gov.uk
Gwella Promenâd Bae Llandudno - CBS Conwy
Dyma gam cyntaf y broses o adnewyddu ac ail ddylunio llochesi treftadaeth a cholofnresi ar Draeth y Gogledd Llandudno. Bydd y prosiect yn dylunio llochesi newydd ac yn uwchraddio colofnresi i ddarparu gwasanaethau arloesol newydd i ymwelwyr a’r gymuned leol.
Cyswllt: Jasmin Koffler – jasmin.koffler@conwy.gov.uk
