Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Masnach

Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Masnach


Summary (optional)
Os ydych yn rhedeg busnes neu ddigwyddiad sy’n agored i’r cyhoedd, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff yn gyfrifol.
start content

Mae cyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle yn dechrau o 6 Ebrill 2024. Mae'n golygu y bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn ei wneud nawr.

Rhagor o wybodaeth ar y gyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle.

Os ydych yn rhedeg busnes neu’n cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i waredu unrhyw wastraff a deunydd ailgylchu yn gyfrifol, trwy ei roi mewn cludwr gwastraff masnach trwyddedig.

Pam ein dewis ni? 


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gludwr gwastraff masnach trwyddedig. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr, dibynadwy a phroffesiynol ar gyfer busnesau sydd angen contract ar gyfer casgliadau rheolaidd ac ar gyfer cynnal digwyddiadau untro.

Casgliadau ar Gontract

Os ydych angen gwaredu gwastraff ailgylchu a gwastraff cyffredinol yn rheolaidd o'ch safle busnes, mae ein gwasanaeth casglu yn ddelfrydol. Ar gael naill ai ar gontractau mis neu dymor penodol (lleiafswm o 6 mis).

Rydym yn codi tâl fesul casgliad yn unig. Mae’r taliadau hyn yn cynnwys

  • biniau a chludo
  • eich dogfennau Dyletswydd Gofal
  • casgliadau

Nid oes unrhyw gostau cudd na TAW.

Ffioedd Contract Gwastraff

Yn ddilys o 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024.

Cynwysyddion Ailgylchu

Cynhwysydd AilgylchuAmlder Casgliadau sydd ar gael*Cost

Bin ailgylchu caniau 240L

Wythnosol

£3.30 am bob casgliad

Bin ailgylchu gwydr 240L

Wythnosol

£3.30 am bob casgliad

Bin ailgylchu plastig 

Wythnosol

£3.30 am bob casgliad

Bin Bwyd 140L (yn cynnwys bagiau bio)

Wythnosol

£5.50 am bob casgliad

Bin ailgylchu cardbord 660L

Wythnosol

£6.60 am bob casgliad

Sticeri Cardfwrdd

  • Dim ond ar gyfer lleoliadau lle na fydd bin cardfwrdd yn ffitio

  • Rhowch un sticer ar fwndel hydrin o gardfwrdd

Wythnosol

£96.25 am bob rholyn o 25 sticer (£3.85 am bob sticer)

£5.50 am gludo

Trolibocs 
Dim ond ar gyfer lleoliadau ble mae’r canlynol yn gymwys:

  • Ni fydd biniau ailgylchu arferol yn ffitio

  • Mae lleoliad gwledig yn golygu mai dim ond Trolibocs y gellir eu casglu

Wythnosol

£5.50 am bob casgliad

*Casgliadau wythnosol, bob pythefnos neu’n fisol

Cynwysyddion Gwastraff

Casgliadau wythnosol, gyda biniau meintiau gwahanol i gwrdd â’ch anghenion:

Cynhwysydd GwastraffCost 

Bin Gwastraff 240L 

£8.80 am bob casgliad

Bin Gwastraff 660L 

£17.60 am bob casgliad

Bin Gwastraff 1,110L 

£29.15 am bob casgliad

Sachau Masnach - Dim ond ar gael i gwsmeriaid lle na fydd bin yn ffitio

£92.40 am lwyth o 20 (£4.62 am bob sach)

£5.50 am gludo neu brynu o Lyfrgell


Casgliadau o Ddigwyddiadau

Os ydych yn cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i drefnu ar gyfer unrhyw wastraff ailgylchu ychwanegol, gwastraff ailgylchu neu sbwriel yn yr ardal.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu ein Gwasanaethau Casglu o Ddigwyddiadau:

Cyflwynwch eich archeb mewn da bryd, o leiaf 28 diwrnod cyn eich digwyddiad. Bydd rhagdaliad yn ofynnol.

Mae TAW yn berthnasol ar gyfer ffioedd dosbarthu a chasglu digwyddiadau.

Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Llety Gwyliau

Os ydych chi’n defnyddio eich eiddo ar gyfer busnes, un ai yn ei osod fel llety gwyliau, llety hunanarlwyo neu os ydych yn rhedeg gwesty, mae’n rhaid i chi fod â gwasanaeth casglu gwastraff masnachol.

end content