Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Heat Grant Hysbysiad Preifatrwydd - Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022 i 2023

Hysbysiad Preifatrwydd - Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022 i 2023


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd


 Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data sydd wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Bydd y Cyngor, yn benodol y Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweinyddu’r  Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022 i 2023.

Y rheswm (pwrpas) pam mae angen prosesu’ch data personol yw:

Bwriad Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf 2022i 2023 yw lleihau effaith costau cynyddol ynni a’r argyfwng costau byw ar aelwydydd incwm isel Cymru ar fudd-daliadau penodol, gydag un taliad aelwyd o £200 os ydynt yn gyfrifol am y taliad bil ynni. Bydd y Cyngor yn prosesu cofrestriadau a thaliadau yn unol â gofynion y cynllun.

Y data personol a fydd yn cael ei gasglu a’i brosesu yw:

Yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw a’i phrosesu ar gyfer y rheiny sydd â hawl i’r taliadau sy’n cynnwys fel arfer, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • eich enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • dyddiad geni
  • rhif yswiriant gwladol
  • gwybodaeth ariannol

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i:

  • cadarnhau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau bod gennych hawl i fudd-daliadau lles penodol rhwng 01/09/2022 a 31/01/2023 a’ch bod yn byw yn y cyfeiriad a nodir ar eich ffurflen gofrestru/cais.
  • prosesu’r taliad, os oes gennych hawl
  • gwrthod y taliad, lle nad oes gennych hawl gan roi’r rheswm pam
  • cadarnhau pan fo taliad yn cael ei wneud / wedi’i wneud

Y sail gyfreithiol dros

brosesu’ch data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol i brosesu | Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae'r Cyngor yn gweithredu fel proseswyr data ar gyfer y cynllun hwn, sydd wedi'i greu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â’n dyletswyddau tasg gyhoeddus ac yn gweinyddu’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymruu.

Mae hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf 2022/23 ar gael yma:

Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022 i 2023 | LLYW.CYMRU

Sut a ble mae’ch data yn cael ei storio:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amryw o wahanol systemau i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu gwesteio’n fewnol, tra bod eraill yn cael eu gwesteio gan sefydliadau trydydd parti ar sail gwesteiwr cwmwl.

Pa mor hir y caiff eich data ei gadw:

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw a gynhwysir ym Mholisïau Cadw Data / Dogfennau’r Cyngor ar gyfer pob maes data a gesglir.  

Bydd yr holl alwadau ffôn a dderbynnir ac a wneir drwy linellau'r Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau yn cael eu recordio at ddibenion hyfforddiant a monitro. Bydd recordiadau o’r galwadau hyn yn cael eu cadw am 90 diwrnod.

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu:

Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau eraill naill ai i storio gwybodaeth bersonol neu i’n helpu i ddarparu ein gwasanaethau i chi.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol os

teimlwn bod rheswm da dros wneud hynny, sy’n bwysicach na diogelu eich preifatrwydd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn canfod neu atal trosedd neu dwyll.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:

  • Gwasanaethau / Adrannau eraill CBSC at ddibenion materion Gorfodi’r Cyngor lle bod angen.
  • Cyrff sy’n ymchwilio neu brosesu hawliadau
  • Asiantaethau sector cyhoeddus e.e. Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol eraill
  • Cyrff sy'n gweithio i atal twyll a chefnogi mentrau twyll cenedlaethol

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • · yr hawl i gael gwybod
  • · yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
  • · yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol.
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.

 

Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler hefyd Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC:

Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol (os oes angen)

Gweler dolen Llywodraeth Cymru isod am ragor o fanylion am y cynllun:

https://llyw.cymru/cynllun-cymorth-tanwydd-cymru-2022-i-2023

Cyswllt gwasanaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r manylion yn y ddogfen hon, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd- daliadau, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN neu e-bost: winterfuelgrant@conwy.gov.uk

Uned Llywodraethu Gwybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data

personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Uned Llywodraethu Gwybodaeth Blwch Post 1 Conwy LL30 9GN uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk

01492 574016/577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content