Fel rhan o'n gwelliant parhaus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad (Adroddiad Blynyddol) bob
blwyddyn ariannol i esbonio beth wnaethpwyd i wneud gwelliannau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a lle rydym angen gwneud gwelliannau pellach. Mae hyn yn ofyniad dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae modd cael copïau o'r adroddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg, mewn Braille, print bras, CD ac mewn ieithoedd eraill. Ffoniwch 01492 576508 i drefnu.
Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau a geir ar y dudalen hon i'w cael ar gais.