Fel rhan o’n Sgwrs y Sir barhaus, rydych wedi dweud wrthym beth sydd wedi newid yn y pum mlynedd ddiwethaf yn eich barn chi, beth sy’n bwysig i chi a beth allen ni ei wneud yn well. Rydym wedi defnyddio eich adborth i ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol drafft.
Crynodeb o’r Cynllun Drafft (PDF, 1154KB)
Hoffem glywed eich barn ar y themâu rydym wedi dewis canolbwyntio arnynt er mwyn gwella.
Mae’r ymgynghoriad ar y Cynllun Corfforaethol drafft yn dod i ben ar 8 Gorffennaf 2022.
Gallwch ymuno â Sgwrs y Sir a rhoi eich sylwadau rŵan:
https://www.conwy.gov.uk/cy/Council/Have-your-say/The-County-Conversation.aspx
https://www.facebook.com/sgwrsconwyconvo
https://twitter.com/sgwrsconwyconvo
Neu gallwch e-bostio: sgwrsysir@conwy.gov.uk
Neu ffonio: 01492 574000
Neu gallwch ysgrifennu at:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN