Yr hyn y mae'r Gymhorthfa Busnes a Chyflogaeth yn ei gynnig
Ydych chi’n chwilio am gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant?
Ydych chi’n fusnes sydd angen cefnogaeth gyffredinol, help i ddod o hyd i grantiau, neu eisiau recriwtio staff newydd?
Mae ein Cymhorthfa Busnes a Chyflogaeth yn cynnig cyngor diduedd, am ddim, ar ystod eang o bynciau yn ogystal â chefnogaeth i bobl sy’n chwilio am waith cynaliadwy.
Bydd ein hymgynghorwyr cyfeillgar, Clare a Leila ar gael i ateb eich cwestiynau a’ch helpu i’r cyfeiriad cywir.
Ar hyn o bryd cynhelir y cymorthfeydd ym Mae Colwyn ond bwriedir cynnal mwy cyn bo hir yn Abergele, Llandudno, Llanrwst a Phenmaenmawr.
Gweler ein hamserlen gyfredol isod. Mae’n bosibl y bydd hon yn newid, felly dewch yn ôl yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Pryd | Ble | Amser |
Bob dydd Mawrth yn ystod tymor ysgol.
Dyddiadau gwyliau ysgol |
M-Sparc Ar y Lôn, 31 Ffordd Conwy, Bae Colwyn LL29 7AA. |
10am – 2pm |