Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n siop bob peth i helpu pobl leol i ddod o hyd i waith gwerth chweil.
Mae ein tîm o fentoriaid a chynghorwyr yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i unigolion, gan eu galluogi i symud ymlaen i waith, hyfforddiant addas neu i waith gwirfoddol.
Rydym ni hefyd yn helpu cyflogwyr lleol i lenwi swyddi gwag, gan baru cyfranogwyr addas yr ydym ni’n gweithio â nhw gyda swyddi amrywiol mewn gwahanol sectorau.
Os ydych chi’n gyflogwr ac arnoch chi eisiau manteisio ar y cyfle i rannu eich swyddi gwag, yna fe hoffem glywed gennych chi. Rydym ni’n cefnogi llawer o unigolion sy’n awyddus ac yn barod iawn i ddechrau gweithio ar unwaith.
Cysylltwch â ni:
- Ar 01492 575578
- e-bostiwch CEH@conwy.gov.uk
neu llenwch y ffurflen isod i ni eich ffonio chi:

