Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Help-Getting-Into-Work Dileu Swyddi, Torri Credyd Cynhwysol

Dileu Swyddi, Torri Credyd Cynhwysol


Summary (optional)
DILEU SWYDD, TORRI CREDYD CYNHWYSOL - A yw'r materion hyn yn effeithio arnoch chi?
start content

Mae llawer o gyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sy’n wynebu’r materion hyn, ac er mwyn eich arwain i’r lle cywir rydym wedi casglu’r wybodaeth ganlynol ynghyd. 

Cofiwch y gallwn ni eich helpu hefyd, a gall ein hymgynghorwyr ymroddedig gynnig cymorth a chyngor personol dros y ffôn 01492 575578 neu drwy e-bostCEH@conwy.gov.uk

Ydych chi’n wynebu colli eich swydd?

Os felly, mae angen i chi wneud cais am unrhyw gynlluniau cymorth cyn gynted â phosibl. Os nad ydych yn gwybod pa gymorth y gallech ei dderbyn, gall ein hymgynghorwyr eich helpu drwy gynnig cyngor ar fudd-daliadau yn ogystal â’ch helpu chi i ddod o hyd i waith. Ffoniwch ni ar 01492 575578 neu anfonwch e-bost atom CEH@conwy.gov.uk.

Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cynnig cyngor defnyddiol ar sut i ymdopi os byddwch yn colli eich swydd. Gallwch ddarganfod mwy am sut gall Gyrfa Cymru a’u hymgynghorwyr arbenigol gynnig cymorth emosiynol, ymarferol ac ariannol i chi os byddwch yn colli eich swydd drwy fynd i’w gwefan: Opsiynau ar ôl colli swydd (llyw.cymru)

ReAct

Mae ReAct yn cynnig cymorth a chyllid i bobl sydd wedi colli eu swydd yn ddiweddar, sy’n ddi-waith neu sydd o dan rybudd diswyddo cyfredol, er mwyn iddynt ailhyfforddi neu ddiweddaru eu sgiliau. Ewch i https://cymrungweithio.llyw.cymru/sut-y-gallwn-ni-helpu/cymorth-ar-ol-colli-swydd i gael rhagor o fanylion. 

Ydych chi’n poeni am fynd yn ôl i’r gwaith?

Os ydych chi’n paratoi i fynd yn ôl i’r gwaith ond mae’r cyfan yn eich llethu, mae cymorth ar gael a mynediad cyflym ac am ddim i therapïau corfforol a siarad:

Eitem / Gwasanaeth Cyswllt
C.A.L.L. Gwasanaeth cyngor a gwrando iechyd meddwl i Gymru - llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar 0800 132 737, www.callhelpline.org.uk
Able Futures Cymorth iechyd meddwl am ddim i weithwyr: Mae Able Futures yn cynnig hyd at 9 mis o gymorth i bobl mewn gwaith neu bobl sydd ar fin dechrau gweithio yn y DU ar 0800 321 3137
RCS Mynediad cyflym am ddim i therapïau ar gyfer pobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy ar 01745 336 442 neu anfonwch e-bost hello@rcs-wales.co.uk
Iechyd Cyhoeddus Cymru https://phw.nhs.wales/topics/laest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/how-are-you-doing/
Mental Health at Work www.mentalhealthatwork.org.uk

 

Torri Credyd Cynhwysol?

Mae'r taliad ychwanegol o £20 yr wythnos gan y Llywodraeth yn ystod Pandemig Covid-19 wedi dod I ben.

Mae Cyngor ar Bopeth wedi rhybuddio y bydd un o bob tri o bobl ar Gredyd Cynhwysol yn mynd i ddyled oherwydd y toriad hwn, ac mae’r Sefydliad Iechyd yn dweud y bydd yn cael effaith ar iechyd meddwl a lles miloedd o deuluoedd.

Os bydd y toriad hwn i’r Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch chi, ffoniwch ni ar 01492 575578. Gall un o’n hymgynghorwyr ymroddedig gynnig cyngor i chi, neu mae adnoddau defnyddiol iawn ar gael yn lleol:

Eitem / gwasanaethCyswllt
Food Share – dolenni uniongyrchol https://abergelepensarn.co.uk/community-resources/foodshare-pensarn http://hopegiver.org.uk/foodshare/

 

Cynllun Kickstart

A ydych chi rhwng 16 a 24 oed ac yn derbyn Credyd Cynhwysol? Yna gadewch i ni roi hwb i’ch gyrfa!

Mae Cynllun Kickstart yn darparu arian i greu swyddi newydd ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir, ac mae’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr a hyfforddiant, a allai arwain at swydd llawn amser.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy swyddi Kickstart i’w llenwi ar hyn o bryd.  Ewch i Dechreuwch eich gyrfa o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) i weld y rhestr lawn o swyddi sy’n amrywio o Swyddog Cymorth Swyddfa Docynnau i Swyddog Cymorth Busnes, a Gweithredwr Cwch dan Hyfforddiant i Gymhorthydd Hamdden. Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r swyddi hyn, siaradwch â’ch Hyfforddwr Gwaith Credyd Cynhwysol a fydd yn eich helpu i wneud cais amdani.

end content