Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Cymorth wrth wneud cais

Cymorth wrth wneud cais


Summary (optional)
Diolch am ddangos diddordeb mewn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
start content

Mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i ddarparu cymorth i chi gyda’r broses ymgeisio. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw anfantais i chi yn y broses ddethol. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i lenwi eich ffurflen gais, cysylltwch â ni.

Mae ein proses recriwtio a dethol yn seiliedig ar deilyngdod, a nod ein meini prawf dewis yw bod yn ddi-ragfarn. Mae gofynion y swydd rydych yn gwneud cais amdani wedi'u nodi yn y Manylion am yr Unigolyn a’r Swydd-ddisgrifiad. Bydd ein penderfyniad wedi’i seilio ar eich gallu i fodloni'r gofynion hyn.

Cyn i chi ddechrau llenwi'r ffurflen gais, darllenwch trwy'r Swydd-ddisgrifiad a’r Manylion am yr Unigolyn. Mae'r gofynion wedi’u rhannu yn ddau gategori:

  • Meini prawf hanfodol - mae'r rhain yn nodweddion sy'n hanfodol i'r swydd. Os nad ydych yn dangos eich bod yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol, ni fyddwch yn cael cyfweliad.
  • Meini prawf dymunol – gellir defnyddio’r rhain i ddewis rhwng dau neu fwy o ymgeiswyr sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sydd yn diwallu’r meini prawf (lleiafswm) hanfodol fel y nodir yn y Manyleb Y Person (meini prawf wedi’i nodi â “H”). Cliciwch yma am fanylion pellach

Cofiwch mai’r ffurflen gais yw eich cyswllt cyntaf â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac felly mae'n hanfodol eich bod yn gwneud argraff dda. Bydd y Rheolwr sy’n Recriwtio yn llunio rhestr fer gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych ac felly mae angen i chi sicrhau eich bod yn cwblhau'r holl wybodaeth mor llawn â phosibl. Os oes unrhyw fylchau yn eich cais, h.y. swyddi blaenorol, byddwch yn cael eich holi ynglŷn â’r rhain os cewch eich gwahodd am gyfweliad.

Ar ôl cwblhau eich cais a’i gyflwyno, byddwch yn cael cydnabyddiaeth yn syth ein bod wedi derbyn eich cais. A bydd modd i chi arbed peth o fanylion eich cais rhag ofn y byddwch yn ymgeisio am swydd arall yn y dyfodol.

Mynd i Gyfweliad
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Gwybodaeth Ychwanegol
Awgrymiadau Gwych i Ymgeiswyr - Cyfweliadau Fideo
Awgrymiadau Gwych i Ymgeiswyr - Cyfweliadau wyneb yn wyneb

Logo Cyflogwr Hyderys o Ran Anabledd
end content