Beth mae di-garbon net yn ei olygu?
Mae di-garbon net yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chael cydbwysedd rhwng yr allyriadau yr ydym yn eu creu a’r allyriadau yr ydym yn ei dynnu o atmosffer y ddaear.
Byddwn yn ddi-garbon net pan fydd y cyfanswm yr ydym yn ei ychwanegu yn ddim mwy na’r cyfanswm yr ydym yn ei dynnu i ffwrdd.
Pam ei fod yn bwysig?
Yr ydym eisoes yn gweld effaith newid yn yr hinsawdd gyda lefelau’r môr yn codi a newid ym mhatrymau tywydd gan gynnwys llifogydd a stormydd garw. Bydd hyn ond yn gwaethygu os yw cynhesu byd-eang yn cynyddu.
Bydd yr hyn a wnawn yn y ddeng mlynedd nesaf i leihau allyriadau yn hanfodol i ddyfodol Conwy a’n planed.
Rydym yn anelu at fod yn Gyngor di-garbon net erbyn 2030. Mae di-garbon net yn bwysig oherwydd dyma'r ffordd orau i ni leihau cynhesu byd-eang a thaclo newid yn yr hinsawdd.
Beth ydyn ni yn ei wneud yng Nghonwy?
Yn dilyn y Datganiad Argyfwng Hinsawdd (gweld datganiad) ym Mai 2019 sefydlwyd Rhaglen Her yr Hinsawdd er mwyn rhoi ar waith ein gweledigaeth i arwain ein cymunedau yn ein nod i fod yn gyngor di-garbon net.
Amcanion y rhaglen yw:
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y Cyngor a ddaw o ystadau, fflyd, staff yn teithio i’r gwaith, teithio ar gyfer busnes, y gadwyn gyflenwi a goleuadau stryd er mwyn llwyddo i greu allyriadau di-garbon net.
- Gwrthbwyso’r allyriadau sydd yn weddill erbyn 2030.
- Datblygu a gweithredu ar gynllun ynni ardal leol ar gyfer Cyngor Conwy erbyn 2030.
Mae cynllun datgarboneiddio Conwy yn dangos y llwybr y byddwn yn ei gymryd i fod yn Awdurdod Lleol di-garbon net erbyn 2030.
Yr ydym wedi sefydlu 7 prosiect i gyflawni’r cynllun datgarboneiddio. Prosiectau Her yr Hinsawdd.