Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prosiectau Her yr Hinsawdd


Summary (optional)
Yr ydym wedi sefydlu 7 prosiect i gyflawni’r cynllun datgarboneiddio.
start content

Mae pob prosiect yn canolbwyntio ar faes sy’n creu allyriadau, a bydd yn edrych ar newid y ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Adeiladau

Byddwn yn gwneud gwelliannau i adeiladau i leihau defnydd ynni.

Y Diweddaraf: Mae data ynni yn cael ei ddadansoddi i gynorthwyo gyda datblygu cynlluniau a phrosiectau datgarboneiddio ar gyfer adeiladau penodol y Cyngor.

Mae cynlluniau di-garbon net yn cael eu gwreiddio i’r strategaeth rheoli asedau, ac mae polisïau presennol sy’n ymwneud â chynllunio, adnewyddu a chynnal a chadw adeiladau yn cael eu hadolygu er mwyn cynnwys gofynion sero net.

Staff yn teithio

Byddwn yn gweithio tuag at leihau’r nifer o filltiroedd busnes a milltiroedd cymudo a deithir, ac yn annog staff i ddewis opsiynau teithio llesol a charbon isel.

Y Diweddaraf: Datblygwyd arolwg teithio er mwyn casglu gwybodaeth am ddewisiadau staff parthed cymudo a theithio ar gyfer busnes. Coledir y wybodaeth hon yn rheolaidd i sicrhau bod gwybodaeth yn ymwneud ag ymddygiad teithio ac arferion gweithio staff yn cael eu cadw’n gyfredol, ac er mwyn ystyried modelau gweithio y presennol ac ar gyfer y dyfodol.

Gwnaed ymchwil i bolisïau cymudo staff, ac mae nodau ar gyfer Polisi Teithio Staff yn cael eu datblygu.

Gwrthbwyso Carbon

Byddwn yn defnyddio cyfleoedd i wrthbwyso carbon ar dir y Cyngor.

Y Diweddaraf: Cesglir data i ganfod effaith coed trefol ar ôl troed carbon Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gan gynnwys amcangyfrif o frigdwf, rhywogaethau coed trefol, diamedr ac uchder. Mae dull o gasglu’r data sydd ei angen ynglŷn â choed ar gyfer yr holl gynlluniau plannu coed yng Nghonwy yn cael ei ddatblygu.

Yr ydym yn archwilio cyfleoedd ar gyfer gwella bioamrywiaeth mewn lleoliadau ledled y sir.

Adeiladwyd planhigfa goed i hwyluso’r gwaith o dyfu coed a gynaeafwyd yn lleol a cheisio cynaeafu cymaint ag sy’n bosibl o rywogaethau sydd â’r gallu i amsugno’r mwyaf o garbon. Ar hyn o bryd mae 2,000 o sbesimenau anaeddfed wedi eu plannu yn y blanhigfa. Pan fyddant wedi aeddfedu mwy fe’u plennir allan yn y Sir.

Ers i’r Cyngor gyhoeddi Argyfwng Hinsawdd ym mis Mai 2019, mae 2,073 o goed ychwanegol wedi eu plannu yn Sir Conwy.

Yr ydym yn gweithio gyda Chartrefi Conwy i rannu arferion da ar eiddo cyfagos.

Fflyd

Byddwn yn lleihau allyriadau sydd ynghlwm â defnydd tanwydd yn y fflyd gan ddefnyddio cerbydau carbon isel.

Y Diweddaraf: Dadansoddwyd data yn ymwneud ag oedran y fflyd a’r math o danwydd wrth broffilio’r fflyd ar gyfer y galw cyfredol a’r galw yn y dyfodol. Gwnaed ymchwil i bolisïau gwefru cerbydau trydan y gweithle, a ddefnyddir i ddatblygu polisi ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn cael ei osod ar 2 safle CBSC – depo Builder Street a depo Bron y Nant.

Yn y depo yn Builder Street, gosodir 7 o orsafoedd gwefru – yn cael eu pweru gan aráe ffotofoltäig 50kw, gyda rhywfaint o wytnwch gan y grid – fel cynllun peilot i brofi effeithiolrwydd yr aráe ffotofoltäig wrth wefru fflyd electronig, yn cynnwys cerbydau nwyddau trwm.

Yn y depo ym Mron y Nant bydd 6 gorsaf yn cael eu gosod, wedi’u pweru gan y grid.

Mae’r cerbyd ailgylchu trydan (RCV) cyntaf o saith wedi cyrraedd ac mae ei berfformiad yn cael ei fonitro. Yr ydym yn ymchwilio i ffynonellau ychwanegol o gyllid ar gyfer disodli cerbydau presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda dewisiadau eraill carbon isel.

Cynllun Ynni Ardal Leol

Byddwn yn datblygu cynllun i ddatgarboneiddio’r system ynni o fewn Sir Conwy.

Y Diweddaraf: Mae’r cynllun terfynol wedi ei lunio a derbyniwyd cymeradwyaeth ddemocrataidd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Cabinet. Cynhaliwyd gweithdy rheoli rhaglen gyda’r Ymgynghorwyr Arup, a bydd dogfennaeth y prosiect yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r hyn a ddeilliwyd o’r gweithdy.

Defnyddir dull rheoli prosiect i gyflawni’r ymyriadau a nodir yn y Cynllun Ynni Ardal Leol.

Goleuadau stryd

Byddwn yn lleihau allyriadau o oleuadau stryd drwy ddefnyddio technoleg garbon isel.

Y Diweddaraf: Mae amcanion Prosiect Lleihau Carbon Goleuadau Stryd LED wedi eu cyflawni, ac mae tua 7,300 o lusernau goleuo strydoedd wedi eu newid am rai LED. Aed y tu hwnt i’r targed o 1.5GWh o oddeutu 3,000kWh.

Ar hyn o bryd yr ydym yn treialu’r defnydd o oleuadau ffotofoltäig (solar) fel dull gweithredu amgen yn hytrach na newid ceblau’r rhwydwaith. Mae nifer o dreialon yn mynd rhagddynt mewn gwahanol leoliadau yn targedu goleuadau amwynderau, fel na effeithir ar ddiogelwch y ffyrdd. Cynhaliwyd treialon cynnar yn ystod 2022/23 hyd yma, a byddwn yn parhau i fonitro perfformiad y cyfarpar dros gyfnod y gaeaf hwn er mwyn penderfynu a yw capasiti’r batri a’r dull gwefru yn ddigonol i gynnal y golau drwy’r nos.

Mae goleuadau solar wedi eu gosod ger cylchfan Ffordd Abergele / Ffordd Rhuddlan, ac fe’u gosodir hefyd ar y gefnffordd yng Nghapel Curig, ar ran Llywodraeth Cymru.

Cadwyn gyflenwi

Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i ddatgarboneiddio cadwyn gyflenwi Conwy.

Y Diweddaraf: Yr ydym yn dadansoddi data gwariant ac effaith prif gyflenwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o ran carbon, gan gynnwys lleoliad cyflenwyr, y math o gyflenwyr ac adran wariant.

Mae cwestiynau’n cael eu drafftio ar gyfer cyflenwyr posibl er mwyn canfod sut y maent yn monitro eu hallyriadau carbon, ac mae’r Strategaeth Gaffael Gorfforaethol yn cael ei hadolygu er mwyn cynnwys datgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi.

end content