Cynllun Datgarboneiddio Conwy
Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd yn 2019, rydym wedi datblygu cynllun datgarboneiddio i nodi’r llwybr y byddwn yn ei gymryd i fod yn Awdurdod di-garbon net erbyn 2030. Byddwn yn darparu hyn drwy’r Rhaglen Her yr Hinsawdd.
1.Diffinio cwmpas gweithgareddau a ffynonellau allyriadau i’w cynnwys yn y rhaglen.
- Cyfrifo’r allyriadau sylfaenol i’w defnyddio fel dechrau’r siwrnai i fod yn ddi-garbon net.
- Modelu’r senarios a fydd yn cyflawni’r gostyngiad mwyaf mewn carbon.
- Darparu prosiectau o fewn y Rhaglen Her yr Hinsawdd.
Cwmpas
Allyriadau Cwmpas 1
- Tanwydd a ddefnyddir gan adeiladau sy’n eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan y Cyngor
- Nwy a ddefnyddir gan beiriant gwres a phŵer cyfunedig
- Tanwydd a ddefnyddir gan gerbydau a pheiriannau’r Cyngor
Allyriadau Cwmpas 2
- Trydan grid a ddefnyddir gan adeiladau sy’n eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan y Cyngor
- Trydan grid a ddefnyddir gan oleuadau stryd a TCC.
Allyriadau Cwmpas 3
- Cyflenwad a systemau trin dŵr adeiladau sy’n eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan y Cyngor
- Teithio at ddibenion busnes
- Cymudo staff
- Gwastraff o weithrediadau’r Cyngor
- Prynu nwyddau a gwasanaethau
- Defnydd ynni gan asedau ar brydles
Y gwaelodlin – allyriadau 2018/19 (tCO2e – tunelli o garbon deuocsid cyfatebol)
Ffynhonnell allyriadau | Allyriadau 2018/2019 (tCO2e) |
Adeiladau
|
11744
|
Teithio at ddibenion busnes
|
578
|
Cymudo
|
4318
|
Fflyd
|
3304
|
Golau stryd a TTC
|
1580
|
Cadwyn gyflenwi
|
34127
|
Gwastraff
|
4
|
Cyfanswm yr allyriadau
|
55199
|
Rhaglen Her yr Hinsawdd – Prosiectau
Rydym wedi sefydlu 8 prosiect er mwyn gweithredu'r cynllun. Mae pob prosiect yn canolbwyntio ar faes sy’n cynhyrchu allyriadau, a bydd yn edrych ar newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Adeiladau – Byddwn yn gwneud gwelliannau i adeiladau i leihau defnydd ynni.
Teithio at ddibenion busnes – Byddwn yn datblygu cynllun teithio i’r gweithle i leihau nifer y milltiroedd busnes a deithir.
Gwrthbwyso carbon – Byddwn yn defnyddio cyfleoedd i wrthbwyso carbon ar dir y Cyngor.
Fflyd – Byddwn yn lleihau allyriadau sydd ynghlwm â defnydd tanwydd yn y fflyd gan ddefnyddio cerbydau trydan.
Cynllun ynni lleol - Byddwn yn datblygu cynllun i ddatgarboneiddio’r system ynni o fewn Sir Conwy.
Cymudo staff – Byddwn yn annog staff i leihau eu milltiroedd cymudo a dewis opsiynau cymudo teithio llesola charbon isel.
Golau stryd – Byddwn yn parhau i newid hen lampau stryd gyda bylbiau LED.
Cadwyn gyflenwi – Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i ddatgarboneiddio cadwyn gyflenwi Conwy.