Beth mae di-garbon net yn ei olygu?
Mae di-garbon net yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chael cydbwysedd rhwng yr allyriadau yr ydym yn eu creu a’r allyriadau yr ydym yn ei dynnu o atmosffer y ddaear.
Byddwn yn ddi-garbon net pan fydd y cyfanswm yr ydym yn ei ychwanegu yn ddim mwy na’r cyfanswm yr ydym yn ei dynnu i ffwrdd.
Pam ei fod yn bwysig?
Yr ydym eisoes yn gweld effaith newid yn yr hinsawdd gyda lefelau’r môr yn codi a newid ym mhatrymau tywydd gan gynnwys llifogydd a stormydd garw. Bydd hyn ond yn gwaethygu os yw cynhesu byd-eang yn cynyddu.
Bydd yr hyn a wnawn yn y ddeng mlynedd nesaf i leihau allyriadau yn hanfodol i ddyfodol Conwy a’n planed.
Rydym yn anelu at fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030. Mae di-garbon net yn bwysig oherwydd dyma'r ffordd orau i ni leihau cynhesu byd-eang a thaclo newid yn yr hinsawdd.
Rydym wedi llunio cynllun sy’n dangos sut rydym yn anelu at fod yn gyngor sero net erbyn 2030.
Gweld ein Cynllun Sero Net (PDF, 0.9MB)