Y llynedd, daeth sefydliadau sector cyhoeddus at ei gilydd i lansio Sgwrs y Sir er mwyn rhoi cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghonwy. Derbyniwyd barn pobl am yr hyn sy’n dda am ble maent yn byw ac yn gweithio a syniadau ynghylch ble y dylai sefydliadau gwahanol ganolbwyntio eu hymdrechion dros y blynyddoedd nesaf.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ran fawr i'w chwarae yn Sgwrs y Sir ac mae rhai o'r syniadau a gyflwynwyd eisoes yn cael eu hystyried drwy gynlluniau neu strategaethau sydd eisoes yn bodoli.
Mae'r Cyngor bellach wedi llunio Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd i fynd i'r afael â'r pethau allweddol sydd, yn ôl y bobl, yn bwysig dros ben. Yn y ddogfen ddrafft mae wyth prif thema wedi'u nodi, pob un yn canolbwyntio ar rywbeth penodol. Ar gyfer ail Sgwrs y Sir mae arnom ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi am y Cynllun Corfforaethol drafft.
Gallwch ymuno â Sgwrs y Sir a gwneud sylw arlein yma.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau ar 2 Mai 2017. Yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol eleni, bydd eich Cynghorwyr Sir yn adolygu'r holl sylwadau a gyflwynwyd ac yn cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol. Y nod yw cyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol terfynol ar gyfer 2017-22 yn yr hydref.
Oeddech chi’n gwybod bod fod gennym fideo BSL ar Sgwrs y Sir a’r Cynllun Corfforaethol drafft?
Darganfod mwy am Sgwrs y Sir
Darganfod mwy am y Cynllun Corfforaethol drafft
Cofiwch fod y sgwrs yn parhau...
Gwefan: www.conwy.gov.uk/sgwrsysir
Facebook: www.facebook.com/sgwrsconwyconvo/
Trydar https://twitter.com/sgwrsconwyconvo
E-bost: tgdc@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576058