Dyma drydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ers cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n adeiladu ar y cynlluniau blaenorol sydd wedi bod ar waith yng Nghonwy ers 2003.
Rydym wedi datblygu 7 Amcan Cydraddoldeb drafft, ac mae sawl maes blaenoriaeth ar gyfer bob un ohonynt, ynghyd â chynllun gweithredu cynhwysol, sy’n amlinellu’r pethau y byddwn yn canolbwyntio arnynt dros y 4 blynedd nesaf.
Datblygwyd yr amcanion hyn drwy ymgysylltu â’n budd-ddeiliaid, adolygu pa ddata sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch anghydraddoldebau cyson ac mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn eu hadroddiad “A yw Cymru’n Decach 2018.”
Rydym yn awyddus i wybod a ydych chi’n credu y bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn gwella bywydau pobl yn y Sir a’ch gwahodd i rannu eich sylwadau â ni erbyn 5pm ddydd Mawrth, 31 Rhagfyr 2019 yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae gennym fideo BSL am y Cynllun Drafft Cydraddoldeb Strategol:
Gweler y Cynllun Drafft Cydraddoldeb Strategol a’r Amcanion:
Drafft SEP 2020-2024 (Ffeil Word)
Cynllun Gweithredu SEP 2020-2024 (Ffeil Excel)
Easy Read SEP 2020-2024 (Ffeil Word)
Holiadur Cymraeg (Ffeil Word)
Dilynwch y ddolen isod i lenwi holiadur byr os gwelwch yn dda:
Fel arall, gallwch ymateb drwy ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r holiadur sydd ar gael mewn fformat Word a’i ddychwelyd at:
Swyddog Cydraddoldeb ac Adnoddau Dynol
Adnoddau Dynol Corfforaethol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
LL30 9GN
Cyfeiriad e-bost: cydraddoldebau@conwy.gov.uk
Rhif Ffôn: 01492 576225
https://www.equalityhumanrights.com/cy/publication-download/yw-cymru%E2%80%99n-decach-2018