Mae digwyddiadau wedi chwarae rhan allweddol mewn gwneud Sir Conwy yn lle gwych i fyw, i ymweld ac i archwilio.
Y weledigaeth ar gyfer symud ymlaen gyda digwyddiadau o fewn Sir Conwy yw: Sir Conwy, yr amgylchedd iawn ar gyfer cynnal a datblygu digwyddiadau gwych.
Ni fyddai dim o’r hyn sydd wedi ei gyflawni o fewn Sir Conwy wedi bod yn bosibl heb gannoedd o bobl.
Rhaid diolch yn benodol i’r holl fusnesau, yn lleol a chenedlaethol, sydd wedi buddsoddi yn y digwyddiadau ac wedi darparu cefnogaeth ar ffurf nawdd.
Yn ogystal â'r cymunedau a groesawodd y digwyddiadau a’r cannoedd o wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan bob dydd i sicrhau fod y digwyddiadau’n cael eu cynnal.
Os oes diddordeb gennych mewn dod â’ch busnes yn rhan o noddi’r rhaglen o ddigwyddiadau proffil uchel a gaiff eu gweithredu gan Dîm Digwyddiadau Conwy yna cysylltwch â: Rachael Gill, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol ar 01492 575941 neu e-bostiwch rachael.gill@conwy.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal yn Sir Conwy dilynwch ni:
/digwyddiadauconwy
@digwyddiadconwy
digwyddiadevent
@digwyddiadauconwy
Sir Conwy – yr amgylchedd iawn ar gyfer digwyddiadau gwych