Gall sedd wag godi am wahanol resymau. Gall ddigwydd pan fo cynghorydd yn ymddeol, yn marw, yn cael ei wahardd (neu’n anghymwys) neu’n methu ymgymryd â’i swydd.
Cynghorau Tref a Chymuned
Pan fo sedd wag bydd Clerc y Cyngor Tref/Cymuned yn arddangos 'Hysbysiad o Sedd Wag’ yn yr ardal gymunedol.
Mae’r hysbysiad yn egluro bod modd galw etholiad drwy os yw 10 etholwr o’r ardal gymunedol yn ysgrifennu at Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd. Os yw’r gymuned wedi ei rhannu'n wardiau, mae'n rhaid i'r etholwyr fod yn byw yn y ward dan sylw. Mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad yr hysbysiad.
Os gelwir etholiad, mae’n rhaid ei gynnal o fewn 60 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad. Os na dderbynnir unrhyw lythyr i alw etholiad, mae rhwydd hynt i’r Cyngor Tref/Cymuned gyfethol rhywun i lenwi'r sedd wag.
Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor Tref/Cymuned ddewis pwy bynnag y dymunant, yn hytrach na chynnal etholiad.
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pan fo sedd wag bydd 'Hysbysiad o Sedd Wag’ yn cael ei arddangos.
Mae’r hysbysiad yn egluro bod modd galw etholiad pan fo 2 etholwr o ardal etholiadol yn ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau. Os gelwir etholiad, yna mae’n rhaid ei gynnal o fewn 35 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad.
Fodd bynnag, os digwydd i sedd ddod yn wag o fewn 6 mis i ddyddiad yr etholiadau nesaf bydd y sedd yn cael ei llenwi wedi’r etholiad hwnnw. Yn y cyfamser, bydd y sedd yn parhau’n wag ac ni fydd is etholiad yn cael ei gynnal.
Datganiad o Ganlyniadau’r Bleidlais - Abergele (ward Pentre Mawr) - 25.11.2021 (PDF)
Datganiad o Ganlyniadau’r Bleidlais – Llanrwst (ward Crwst) – 20.01.22 (PDF)