Cyngor Bwrdeistref Sirol
O fis Mai 2022 bydd nifer y Cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lleihau o 59 i 55 Cynghorydd sy’n cynrychioli 30 o wardiau etholiadol. Daw’r newidiadau hyn yn sgil adolygiad diweddar gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol o’r trefniadau etholiadol yng Nghonwy.
Bydd y cerdyn pleidleisio a dderbyniwch ar gyfer yr etholiadau lleol ar 5 Mai 2022 yn cynnwys enw eich ward etholiadol a’ch gorsaf bleidleisio, lle byddwch yn mynd iddi i fwrw’ch pleidlais.
I gael manylion y personau a enwebwyd, asiantiaid etholiad a gorsafoedd pleidleisio, chwiliwch am eich tudalen adran etholiadol yma.
Mae gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiadol, gan gynnwys papurau enwebu, i'w chael yma.