Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSE)
Bu Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n meddu’r Achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid rhwng 2008 a 2022 yn gydnabyddiaeth o’r gwasanaeth graenus a ddarparai i gwsmeriaid.
Cyflwynwyd y safon yn lle’r hen Farc Siarter, a hwn yw safon genedlaethol y llywodraeth ar gyfer rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid. Mae’r achrediad yn profi meysydd sydd o flaenoriaeth i gwsmeriaid gyda phwyslais pendant ar ddarpariaeth, prydlondeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff. Mae’r aseswyr annibynnol yn craffu ar ddogfennau, tystiolaeth ysgrifenedig, ymweld â rhannau o’r Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau a siarad â staff, cwsmeriaid a Chynghorwyr wrth gynnal eu hasesiadau.