Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Budd-daliadau Addysg Prydau Ysgol am Ddim ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Prydau Ysgol am Ddim ym Mwrdeistref Sirol Conwy


Summary (optional)
Pwy sy'n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim a sut i wneud cais.
start content

Prydau Ysgol am Ddim

Prydau Ysgolion Cynradd

Cynigir prydau ysgol am ddim i holl dysgwyr ysgolion cynradd Conwy; Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6.

Prydau Ysgolion Uwchradd

Cynigir pryd llawn am ddim i ddysgwyr o teuluoedd sydd wedi llwyddo gyda cais am y budd cinio am ddim.

Taliadau lwfans gwyliau prydau ysgol am ddim

Mae estyniad Llywodraeth Cymru i gyllid darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod y gwyliau wedi dod i ben. Y taliad a wnaed ar gyfer Gŵyl y Sulgwyn ddydd Iau 25 Mai 2023 oedd y taliad olaf a fydd yn cael ei wneud. Ni fydd unrhyw daliadau pellach gan gynnwys hawliadau ôl-ddyddiedig ar gyfer cyfnodau gwyliau cyn 31 Mai 2023.


Mae Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer disgyblion sy’n mynd i ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn cael un o’r canlynol:
  • Cymhorthdal Incwm*
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm*
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eich aelwyd, yn unol ag asesiad Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yn uwch na £16,190
  • Cefnogaeth o dan Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm*
  • Credyd Treth Gwaith parhaus – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol gydag enillion net blynyddol o ddim mwy na £7400.

(*Mae disgyblion sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm neu Gredyd Cynhwysol gyda chyfyngiad enillion net blynyddol o £7400 drwy eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys)

Os oeddech chi’n derbyn pryd ysgol am ddim ar gyfer un o’ch plant gan eich bod yn derbyn un o’r uchod tan 31 Rhagfyr 2023, byddwch yn parhau i dderbyn eich hawl ar gyfer y plentyn hwnnw tan ddiwedd eu cyfnod presennol mewn addysg h.y. cyfnod yn yr ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd (gan gynnwys y 6ed dosbarth), hyd yn oed os bydd eich amgylchiadau yn newid. Fodd bynnag, bydd arnoch chi angen rhoi gwybod i ni os ydi’ch plentyn yn gadael neu’n newid ysgol cyn y dyddiad hwnnw.

Fodd bynnag, os bydd pryd ysgol am ddim yn cael ei ddyfarnu i’ch plentyn/plant o 1 Ionawr 2024 ymlaen, gan eich bod yn derbyn un o’r uchod, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Fudd–daliadau (https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Benefits-and-grants/Contact-Us-Benefits.aspx) os bydd eich amgylchiadau yn newid, gan y bydd eich hawl i gael prydau ysgol am ddim i’ch plant yn dod i ben.

Os yw eich plentyn / plant eisoes yn cael Prydau Ysgol Am Ddim, nid oes gofyn i chi lenwi ffurflen gais bob blwyddyn, oni bai fod eich amgylchiadau yn newid.

Gwneud cais

Gwasanaethau Asesu Refeniw a Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,

Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

Os oes well gennych gopi papur, neu fod angen unrhyw gymorth gyda llenwi’r ffurflen arnoch; neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch gysylltu gydag aelod o’r Tîm Budd-daliadau ar rif ffôn 01492 576491.

Cyfeiriad Ymweld

Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ


Cymorth a chyngor â'r cynnydd mewn costau byw (Cyngor Conwy)

Cael help gyda chostau byw (Llywodraeth Cymru)
Advicelink Cymru - Yma i helpu gyda chostau byw

end content