Cyfrifir y costau yn ôl eich sefyllfa ariannol a faint o wasanaeth a'r math o wasanaeth a gewch bob wythnos. Mae'r taliadau llawn o 6 Ebrill, 2020 yn:
- £18.00 yr awr am ofal gartref yn ystod y dydd; a
- £18.00 yr awr am ofal dros nos
Gwasanaethau dydd
Cyfrifir y costau yn ôl eich sefyllfa ariannol. Mae'r taliadau llawn o 6 Ebrill 2020 yn:
Os oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau sy'n llai na £24,000:
- £19.46 am ddiwrnod llawn
- £9.73 am hanner diwrnod
Os oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau sy'n fwy na £24,000:
- £35.64 am ddiwrnod llawn
- £17.82 am hanner diwrnod
Tudalen Talu am Wasanaethau Preswyl a Dibreswyl
Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?
Bydd y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu'n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- os ydych yn cael gofal seibiant byr neu’n aros am gyfnod hirach
- os oes gennych bartner sy’n dal i fyw gartref
- eich incwm wythnosol, yn cynnwys eich pensiwn
- pa lwfansau eraill y mae gennych hawl i’w derbyn
- swm eich cynilion ac asedau eraill
- a ydych chi’n berchen ar eich eiddo eich hun ai peidio
Gellir canfod y manylion llawn yn ein taflen Talu am Wasanaethau nad ydynt yn rhai Preswyl (PDF).
Gellir canfod y manylion llawn am y Cynllyn Taliadau Gohiriedig y ein taflen Talu am Ofal Preswyl - Y Cynllun Taliadau Gohiriedig (PDF).