Mae’r broses Ceisiadau Grant Cynnal Gofalwyr Di-dâl wedi ailagor ar gyfer y cyfnod 15/8/2022 – 2/9/2022 i ganiatáu i unrhyw hawliadau hwyr gael eu gwneud a’u prosesu.
Bydd taliad untro o £500 ar gael gan Lywodraeth Cymru i ofalwyr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022. Bydd awdurdodau lleol unigol yn gweinyddu ac yn talu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae’r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol sydd ar lawer o ofalwyr di-dâl yn sgil y pandemig, ac i’w helpu nhw i gwrdd â rhai o’r costau ychwanegol. Mae’r taliad wedi’i dargedu ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel. Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn y taliad:
- Os oes ganddyn nhw hawl derbyn Lwfans Gofalwyr ond nad ydyn nhw’n ei dderbyn oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu ar gyfradd uwch; neu
- Os ydych ond yn derbyn premiwm gofalwr o fewn premiwm gofalwr budd-dal prawf modd
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n gymwys i dderbyn Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 9am ar 16 Mai 2022 tan 5pm ar 15 Gorffennaf 2022.
Bydd hawlwyr llwyddiannus yn cael eu talu drwy BACS i gyfrif banc perthnasol yr unigolyn rhwng mis Mehefin 2022 a diwedd mis Medi 2022.
Sylwch, bydd arnoch chi angen cyflwyno/cofrestru hawliad gyda Chyngor eich ardal chi nid Cyngor yr ardal y mae’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol).
Os ydych yn anhapus â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y Cynllun Cymorth i Ofalwyr Di-dâl, gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru drwy’r cyfeiriad e-bost: olderpeopleandcarers@gov.wales
Os oes angen i chi gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghylch y Cynllun Cymorth i Ofalwyr Di-dâl, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost: unpaidcarerspayment@conwy.gov.uk