Mae'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf bellach wedi cau.
Fel rhan o becyn cymorth o dros £50 miliwn i fynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy gyfrwng Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf.
Gall aelwydydd cymwys hawlio un taliad o £200 i rhoi cefnogaeth tuag at dalu eu biliau tanwydd ar y grid dros y gaeaf.
Cynyddwyd y taliad hwn o £100 ar 1 Chwefror, 2022. os ydych eisoes wedi gwneud eich cais neu wedi cael £100 nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, byddwn yn anfon y £100 ychwanegol atoch cyn diwedd Ebrill 2022.
Mae’r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd (ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, p'un ai ydyn nhw'n talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.
Mae aelwyd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn os yw’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd ei heiddo.
Diffinnir cartref cymwys ar gyfer y cynllun hwn isod:
Unigolyn Sengl | Cwpl |
Rydych chi’n gwneud cais i’r cynllun cyn hanner nos ar 18 Chwefror 2022 |
Rydych chi neu’ch partner yn gwneud cais i’r cynllun cyn hanner nos arr 28 Chwefror 2022 |
Chi sy’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar y grid eich eiddo |
Chi, eich partner neu’r ddau ohonoch chi sy’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar y grid eich eiddo |
Rydych chi'n derbyn budd-dal lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith
|
Rydych chi, eich partner neu’r ddau ohonoch chi’n derbyn budd-dal lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith
|
Dydych chi ddim wedi derbyn taliad dan y cynllun o’r blaen
|
Dydych chi na’ch partner ddim wedi derbyn taliad dan y cynllun o’r blaen |
Byddwn yn ysgrifennu at aelwydydd y credwn sy’n gymwys i ofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi’r cais ynghyd â manylion i alluogi’r taliad. Fel arall, gall unigolion sy’n gredu fod yn gymwys am y cymorth hwn gyflwyno cais drwy’r ffurflen ar-lein isod.
Rhaid i bob cais cyrraedd cyn hanner nos ar 28 Chwefror 2022. Bydd y taliadau i ymgeiswyr llwyddianus cael eu gwneud o Ionawr 2022 trwy i’r diwedd o Ebrill 2022.
Os ydych chi’n wynebu caledi ariannol difrifol, efallai yr hoffech chi wneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol | LLYW.CYMRU
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://llyw.cymru/cynllun-cymorth-tanwydd-gaeaf#section-84961