Sefydlwyd y Siarter gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) sef sefydliad wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella gwasanaethau profedigaeth a darparu hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n gweithio ynddo.
Fel aelod o’r Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd rydym ni’n gweithio i gyrraedd y safonau gwasanaeth a nodir yn Siarter y Galarwyr. Mae’r siarter yn diffinio hawl pawb sy’n profi profedigaeth ac yn nodi’r safonau ar gyfer gwasanaethau claddu, amlosgi ac angladdau.
Mae’r hawliau yn y siarter hon ar gael ym mhob mynwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn Amlosgfa Bae Colwyn.
Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.