Dolenni defnyddiol
Isod mae rhai dolenni i wasanaethau sydd ar gael yng Nghonwy, a allai gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol os ydych chi'n cael trafferth gyda'r cynnydd mewn costau byw.
Cartrefi Conwy - Cefnogi cymunedau drwy'r misoedd oerach
Croeso Cynnes - Dewch draw i un o'n canolfannau cymunedol i fwynhau gofod cynnes a diogel, gyda chawl a bara.
Dydd Llun 12pm - 2pm
Pentre Newydd, Hen Golwyn
Dydd Mawrth 12pm - 2pm
Kennedy Court, Hen Golwyn
Dydd Mercher 11am - 1pm
Chester Avenue, Bae Cinmel
Dydd Iau 12pm - 2pm
Y Fron, Bae Colwyn
Dydd Gwener 11am - 1pm
Parkway, Llandrillo-yn-Rhos
Llyfrgelloedd Conwy
Mae Llyfrgelloedd Conwy yn cynnig mynediad am ddim i gyfleusterau a gwasanaethau a allai fod o ddefnydd i’n trigolion.
Er enghraifft, gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth gyda'r meysydd canlynol:
- chwilio am waith
- cwblhau ac argraffu CV
- ymarfer sgiliau iaith
- ymwybyddiaeth o adnoddau fel cylchgronau proffesiynol i ddysgu mwy cyn cael cyfweliad am swydd
- cymorth i argraffu neu sganio dogfennau ar gyfer cwsmeriaid sy'n chwilio am lwfansau byw ychwanegol
- trafod adnoddau ar-lein a llyfrau i helpu cwsmeriaid â dyslecsia
- codi ywybyddiaeth o’n casgliadau iechyd a lles i blant ac oedolion er mwyn eu cefnogi yn ystod adegau prysur a mwy heriol
Gallwch ymaelodi â'r llyfrgell am ddim trwy alw yn eich llyfrgell leol neu trwy lenwi ein ffurflen ar-lein i gael mynediad uniongyrchol at ein hadnoddau digidol.
Gallwch gael mynediad at ystod eang o lyfrau ar gyfer pob oedran, adnoddau ar-lein, a chasgliadau llyfrau llafar ac e-adnoddau. Mae ein catalog ar-lein ar gael i chi bob awr o'r dydd, bob dydd o'r wythnos.
Mae pob llyfrgell yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron a chefnogaeth gan staff. Os ydych yn mynd ar-lein yn y llyfrgell neu yn eich cartref, gallwch weld papurau newydd a chylchgronau am ddim, adnoddau gwybodaeth ar-lein ac adnoddau dysgu iaith a theori gyrru, mae rhestr gyflawn i'w gweld ar ein gwefan.
Mae digwyddiadau i gefnogi ein cwsmeriaid yn cynnwys stori wythnosol, grwpiau darllen, cymorth TG a sesiynau ymarfer Cymraeg anffurfiol.
Ffit Conwy
Y gaeaf hwn gall preswylwyr lleol gael cawod boeth am ddim yng nghanolfannau hamdden Conwy – gofynnwch yn y dderbynfa a dewch â’ch tywel a phethau ymolchi. Gwybodaeth am oriau agor canolfannau hamdden.