Diweddariad Mis Mehefin 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach wedi gwneud taliadau £150 Cynllun Cymorth Cost Byw Llywodraeth Cymru i breswylwyr sy’n talu eu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol.
Os yw taliad yn cael ei wneud a gwybodaeth yn ymddangos y ddiweddarach nad yw’r derbynnydd yn gymwys am y taliad hwnnw, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, ofyn am y taliad llawn yn ôl.
I'r rhai nad ydynt yn talu Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol, mae'r Cyngor yn rhagweld y bydd yn darparu mecanwaith iddynt dderbyn eu taliad o fis Gorffennaf 2022.
Mae’r taliad yn cael ei wneud i breswylwyr gydag eiddo ym mandiau Treth Cyngor A-D ac hefyd i’r rheiny a oedd yn cael cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, beth bynnag yw band prisio eu heiddo.
Rydym ni’n sylweddoli bod pobl yng Nghymru yn wynebu argyfwng costau byw go iawn. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar-lein gyda hyn. Yn y cyfamser, byddwch yn amyneddgar gyda ni tra byddwn yn canolbwyntio ar wneud y trefniadau priodol.
Os ydych chi’n talu drwy ddebyd uniongyrchol ni fydd arnoch chi angen llenwi ffurflen gofrestru. I drefnu talu drwy ddebyd uniongyrchol, ewch i http://www.conwy.gov.uk/trethycyngor
Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n trefnu talu yn y ffordd effeithlon yma a derbyn eich taliad Costau Byw o £150.
Bydd trefniadau eraill yn cael eu gwneud maes o law i’r rhai sydd ddim yn talu drwy ddebyd uniongyrchol. Ar ôl cadarnhau’r rheiny, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon.
Cefndir
Ar 15 Chwefror 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd taliad Costau Byw o £150 yn cael ei ddarparu i:
- Bob aelwyd sy’n byw mewn eiddo treth y cyngor Band A-D; a
- Bod aelwyd sy’n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor, sy’n byw mewn eiddo bandiau treth y cyngor (A-I)
Bydd cynllun yn ôl disgresiwn hefyd yn cael ei sefydlu i gefnogi aelwydydd eraill a all fod yn ei chael hi’n anodd ond nad ydyn nhw’n bodloni'r gofynion uchod.
Os oes angen rhagor o wybodaeth, mae’n bosibl y bydd ar aelwydydd cymwys angen llenwi ffurflen gofrestru fer.
Cofiwch, byddwch yn ofalus os ydych chi’n derbyn negeseuon e-bost neu destun gan ffynonellau amheus yn cynnig gwybodaeth am y cynllun.
Sgamiau ydi’r negeseuon yma’n aml iawn gan bobl sy’n ceisio dwyn eich gwybodaeth.
Cymorth Ychwanegol
Advicelink Cymru
I gael cyngor ar ddyled ac arian ynghyd â gwybodaeth bellach am unrhyw gymorth ariannol arall y gall fod hawl gennych i'w gael, beth am gysylltu ag Advicelink Cymru? Ffoniwch Radffôn 0800 702 2020 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu cliciwch yma i gael gwybodaeth neu siarad ag un o'r cynghorwyr.
Y Gronfa Cymorth Dewisol
Os byddwch yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol. Gallwch wneud cais i'r Gronfa hon drwy'r wefan https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/sut-i-wneud-cais neu drwy radffôn ar 0800 859 5924
Cynllun Cartrefi Clyd
Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i'ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad. Gall hyn leihau eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch radffôn 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru.