Premiymau Treth y Cyngor
Rhoddir rhybudd trwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr 2022, yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y’i cynhwysid gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, wedi penderfynu’r canlynol:
(i) Cymeradwyo’r penderfyniad i godi Premiwm Treth y Cyngor o 50% ar gyfer Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor o 1 Ebrill 2023, ac
(ii) Argymell lefel fynegol o Bremiwm Treth y Cyngor o 100% ar Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor o 1 Ebrill 2024 (yn ddibynnol ar adolygiad yn ystod 2023/2024).
Eithriadau:
Gall rhai eiddo hawlio eithriad o'r premiymau Treth Gyngor:
Dosbarth 1 - Eiddo sy’n cael eu marchnata fel rhai ar werth - gyda therfyn amser - un flwyddyn
Dosbarth 2 - Eiddo sy’n cael eu marchnata fel rhai ar osod – gyda therfyn amser - un flwyddyn
Dosbarth 3 - Anecsau sy’n ffurfio rhan neu sy’n cael eu trin fel rhan o’r brif annedd
Dosbarth 4 - Eiddo a fyddai’n unig neu yn brif gartref rhywun heblaw ei fod yn aros yn llety’r Lluoedd Arfog
Dosbarth 5 - Carafanau ac angorfeydd cychod
Dosbarth 6 – Cartrefi tymhorol lle gwaherddir byw ar hyd y flwyddyn
Dosbarth 7 - Eiddo cysylltiedig â gwaith
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: trethycyngor@conwy.gov.uk