Byddwch yn wyliadwrus o rew - chwiliwch am gliwiau fel rhew ar y palmant neu ar ffenestr flaen eich car cyn i chi gychwyn ar eich taith, a byddwch yn ofalus.
Ceisiwch beidio â brecio yn sydyn - gall gloi eich olwynion a gallwch sgidio ymhellach.
Gwyliwch am gerbydau'r gaeaf sy'n taenu halen neu'n defnyddio swch eira. Mae ganddynt oleuadau oren sy'n fflachio ac maent yn teithio yn araf - tua 40mya.
Arhoswch yn ôl oherwydd gall daflu halen neu ddŵr ar draws y ffordd.
Pethau i'w cadw yn eich car
- crafwr rhew
- dadrewydd
- ffôn symudol wedi'i wefru, a gwefrydd
- tortsh
- pecyn cymorth cyntaf
- rhaff tynnu
- blancedi
- côt gynnes a bŵts
- gwifrau cyswllt
- rhaw eira
- triongl rhybudd
- bwyd a diod cynnes mewn fflasg
- sbectol haul i'ch helpu i weld mewn haul isel yn y gaeaf