Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy


Summary (optional)
 
start content

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Funky logo

Rydyn ni’n wasanaeth ‘mynediad agored’ i’r holl bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yn y sir.

Rydyn ni’n darparu amrywiaeth o wasanaethau:

  • Clybiau ieuenctid a gweithgareddau
  • Gwybodaeth i bobl ifanc
  • Chwaraeon a gweithgareddau
  • DofE (Gwobr Dug Caeredin)
  • Cymorth cyflogadwyedd i rai 16-18 oed
  • Gwaith prosiect mewn ysgolion
  • Cymorth lles
  • Gwaith ar y stryd
  • Clybiau ieuenctid dros y we
  • Galw heibio pobl ifanc mwy agored i niwed

Mae pobl ifanc yn dewis cymryd rhan gyda ni. Trwy weithgareddau a pherthnasoedd cadarnhaol, rydyn ni’n cefnogi pobl ifanc i bontio i fod yn oedolion. Rydyn ni’n eu helpu i fod â rôl gadarnhaol yn eu cymunedau.

Ein prif swyddfa yw Coed Pella.

Cysylltwch i gael mwy o wybodaeth: 01492 575100, gwasanaethieuenctid@conwy.gov.uk Facebook, Twitter ac Instagram @GIConwyYS

Prosiect y Dderwen

OAK-TREE-LOGO
Mae ein tîm digartrefedd pobl ifanc ar gael i roi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc am opsiynau tai. Cysylltwch â 01492 577013.

prosiectydderwen@conwy.gov.uk

www.conwyifanc.com/derw

Prosiect Cynnydd

Conwy ProgressProject-LOGO
Ein prosiect cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed. Cysylltwch â 01492 577117.

www.conwyifanc.com/cynnydd

end content