Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng 01/09/2018 - 31/12/2019.
Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 01/09/2019 a 31/12/2019 gwnewch gais drwy’r system Ddigidol Genedlaethol.
Os yw dyddiad Geni eich plentyn rhwng 01/09/2018 a 31/08/2019 cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy ar 01492 577850 neu trwy e-bostio plant.children@conwy.gov.uk
Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynnig isod. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, gallwch ymgeisio nawr.
Beth yw'r cynnig?
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi fodloni’r meini prawf cymhwysedd isod:
- Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin ran-amser
- Bod pob rhiant, neu gyplau sy'n cyd-fyw ar yr aelwyd yn gweithio ac yn ennill cyflog sy’n cyfateb i 16 awr o leiaf ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol (ni fydd rhieni'n gymwys os ydynt yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn - trothwy fesul rhiant yw hwn).
- Bod un rhiant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant a bod gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu sylweddol yn seiliedig ar fudd-daliadau penodol a dderbynnir am ofalu;
- Bod y ddau riant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu;
- Bod y ddau riant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant, ond bod un neu’r ddau riant i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar dâl salwch statudol;
- Bod un rhiant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant a bod un rhiant yn anabl neu’n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol (gweler isod);
- Rhieni mewn addysg a hyfforddiant sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch (AU), israddedig neu ôl-raddedig neu’r rhai sydd wedi cofrestru ar gwrs mewn sefydliadau Addysg Bellach. Yn y ddau achos, mae’n rhaid i’r cwrs fod o leiaf 10 wythnos o hyd ac fe all fod yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy ddysgu o bell;
- Rhieni maeth a rhieni ar absenoldeb mabwysiadu cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyso rhieni ac ar yr amod bod gofal plant yn unol â Chynllun Gofal eu plentyn maeth / Cynllun Cefnogi Mabwysiadu.
Lle bydd un rhiant yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn yn dal i allu manteisio ar y cynnig:
- Budd-dal analluogrwydd;
- Lwfans gofalwyr;
- Lwfans anabledd difrifol;
- Budd-dal analluogrwydd hirdymor;
- Lwfans cyflogaeth a chymorth (yn seiliedig ar incwm); neu gredydau yswiriant gwladol ar sail anallu i weithio neu allu cyfyngedig i weithio.
Mae'r tabl isod yn dangos incwm yn seiliedig ar isafswm cyflog yn gweithio 16 awr yr wythnos. Os yw'ch incwm yn is na'r cyfanswm ar gyfer eich oedran ni fyddwch yn gymwys.
| Fesul Awr | Wythnosol | Misol | Blynyddol |
23+ |
£9.50 |
£152.00 |
£658.67 |
£7904.00 |
21-22 |
£9.18 |
£146.88 |
£636.48 |
£7637.76 |
18-20 |
£6.83 |
£109.28 |
£473.55 |
£5682.56 |
O dan 18 |
£4.81 |
£76.96 |
£333.49 |
£4001.92 |
Prentis |
£4.81 |
£76.96 |
£333.49 |
£4001.92 |
Sylwch: Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant. Nid yw'r cyllid yn cychwyn tan ar ôl i'ch cais gael ei basio ac mae'n dechrau ar y dyddiad cychwyn a nodir ar eich llythyr cadarnhau.
Polisi Ailwirio
Ar ôl i geisiadau gael eu pasio, cysylltir â rhieni bob tymor er mwyn ailgyflwyno prawf incwm.
Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyso, gallwch ymgeisio nawr.
Os yw dyddiad Geni eich plentyn rhwng 01/09/2018 a 31/08/2019 cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy ar 01492 577850 neu trwy e-bostio plant.children@conwy.gov.uk
*Sylwer, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, fe all hawlio 30 awr effeithio ar rai o’r budd-daliadau rydych yn eu cael ar hyn o bryd. Er enghraifft:
- Yr elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol
- Gofal plant di-dreth a Thalebau Gofal Plant
- Budd-dal Tai
- Gostyngiad Treth y Cyngor
Mwy o wybodaeth
Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr
Ydych chi angen help?
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, angen gwirio eich meini prawf cymhwyster neu eisiau gwybodaeth am Ofal Plant, cysylltwch â:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy