Manylion y Cwrs
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r Cwrs |
19/02/2024 Lefel Dau - Rhan 1 21/02/2024 Lefel Dau - Rhan 2 22/02/2024 Lefel Dau - Rhan 3 (Rhaid mynychu’r bob ddyddiad)
|
6.30 -9pm |
Hyfforddiant ar-lein trwy Zoom |
Hyfforddwr Makaton Achrededig |
Am ddim |
20/02/2024 Lefel Dau - Rhan 1 & 22/02/2024 Lefel Dau - Rhan 2 (rhaid mynychu'r ddau ddyddiad) |
5 - 8.30 / 9pm |
Hyfforddiant ar-lein trwy Zoom |
Hyfforddwr Makaton Achrededig |
Am ddim |
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae lefel 2 yn addysgu’r arwyddion a’r symbolau o gamau 3 a 4 yr Eirfa Graidd, gan gyflwyno mwy o eiriau a chysyniadau er mwyn cefnogi cyfathrebu bob dydd, gan gynnwys y byd tu allan, rhagenwau ac ystod ehangach o bobl, bwyd a gweithgareddau.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn dysgu mwy am sut i ddefnyddio Makaton i gefnogi pobl gydag anghenion gwahanol, gan gynnwys addasu a phersonoli arwyddion a symbolau. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth fwy cynhwysfawr o sut mae Rhaglen Iaith Makaton wedi’i ddylunio, yr ymchwil tu ôl iddo, a chymwysiadau ymarferol Makaton.
Darperir y gweithdy yn fyw ar-lein a bydd yn cymryd oddeutu 7 awr a hanner. Rhaid gwneud yr hyfforddiant ar liniadur, cyfrifiadur personol neu gyfrifiadur llechen â chamera, meic a seinydd; nid yw ffonau clyfar yn addas.
Bydd dysgwyr yn cael Llawlyfr i Gyfranogwyr er mwyn cefnogi eu dysgeidiaeth yn ystod y gweithdy a’i ddefnyddio fel cyfeirnod wrth fynd ymlaen, a byddant yn cael tystysgrif presenoldeb ar ôl ei gwblhau.